Mae swyddi’r rhan fwya’ o do cynta’ darlithwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cadw eu swyddi er fod y cyllid gan y Coleg y dod i ben y penwythnos yma.

Mae bron 20 o’r 23 wedi cael eu haligyflogi gan eu prifysgolion, yn ôl Prif Weithredwr y Coleg, Ioan Matthews.

“Mae prifysgolion wedi sicrhau’r swyddi o’u hadnoddau eu hunain ac mae hynny’n newyddion da,” meddai.

Pryder

Roedd yna bryder y gallai’r prifysgolion beidio ag ailbenodi i’r swyddi darlithio trwy gyfrwng y Gymraeg os oedd y gefnogaeth ariannol gan y Coleg yn dod i ben.

Yr un gofid, meddai Ioan Matthews, oedd mai trefniant tros dro oedd ar gyfer rhai o’r swyddi a bod peryg i brifysgolion dorri yn nes ymlaen.

“Ond r’yn ni’n gobeithio y bydd yna fwy o sicrwydd ar ôl yr ychydig wythnosau  nesa’ pan fydd y Coleg, gobeithio, yn cael gwybod am ei gyllid tymor hir.”