Caerffili (ChrisJ6 Trwydded GNU)
Cyngor Caerffili sydd wedi gwella mwya’ trwy wledydd Prydain o ran gwella’r amodau i bobol ifanc hoyw mewn ysgolion, yn ôl  elusen Stonewall.

Fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili argraff drwy ei ymroddiad i hybu parch a sicrhau bod gwasanaethau ar gael i bob person ifanc, beth bynnag eu tueddiadau rhywiol neu eu hunaniaeth o ran rhyw.

Roedd y clod yn rhan o’r broses o gyhoeddi Mynegai Cydraddoldeb Addysg 2016 Stonewall, yr elusen sy’n ymladd tros hawliau pobol lesbaidd, hoywy, deurywiol a thraws.

Mae’r Mynegai’n rhestru’r deg awdurdod lleol gorau ym Mhrydain ac yn enwi dau enillydd arall ar sail ymdrech.

‘Gwerthfawrogi’r cyfle’

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili hefyd wedi datblygu panel er mwyn sicrhau bod yr ardal yn amgylchedd diogel a hapus i bob person ifanc ac, yn ôl yr adran addysg, mae bod yn rhan o’r Mynegai wedi eu helpu.

“Rydyn ni wedi bod yn cymryd rhan ym Mynegai Cydraddoldeb Addysg Stonewall ers dwy flynedd, ac r’yn ni’n gwerthfawrogi’r cyfle i archwilio ein gwaith bob blwyddyn a gweithio yn ôl cynllun gweithredu er mwyn newid ein harferion yn barhaus,” meddai Keri Cole.

“Mae’r Mynegai yn ein herio ni i sicrhau ein bod ni’n bwrw ymlaen gyda’r gwaith yma ac yn gwneud gwahaniaeth.”

‘Ymdrech anferthol’

“Mae Caerffili wedi gwneud ymdrech anferthol ac rydyn ni’n llawn cyffro eu bod nhw wedi ennill gwobr yr awdurdod lleol sydd wedi gwella fwyaf,” meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru.

“Mae gyda ni rwydwaith anhygoel o awdurdodau lleol sy’n hyrwyddwyr addysg ac mae pob un ohonyn nhw wedi gwneud gwaith ardderchog. Rydyn ni’n hynod falch bod un ohonyn nhw wedi cael eu cydnabod ledled Prydain.”