Protest yn y neuadd y llynedd (llun Cymdeithas yr Iaith)
Mae disgwyl i adroddiad ar ddyfodol neuadd breswyl Pantycelyn gael ei gyhoeddi heddiw, bron i flwyddyn ers i’r adeilad gael ei gau gan Brifysgol Aberystwyth.

Ac mae myfyrwyr yn dweud ei fod yn cwrdd â’u gofynion nhw i gynnal y neuadd yn llety i fyfyrwyr Cymraeg.

Fe fydddai hynny’n cael ei ystyried yn fuddugoliaeth i undeb Cymraeg y myfyrwyr, UMCA, a arweiniodd brotestiadau i achub y neuadd.

Arolwg

Dros y misoedd diwethaf mae Bwrdd Prosiect Pantycelyn wedi bod yn ceisio rhoi cynllun at ei gilydd ar gyfer datblygu’r adeilad – a hynny ar ôl i brotest gan fyfyrwyr atal cau’r neuadd yn barhaol.

Rhan o’r gwaith oedd arolwg o gannoedd o gyn-fyfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd, ac mae disgwyl i gasgliadau’r adroddiad gael ei gyhoeddi gan y brifysgol yn ddiweddarach heddiw.

Yn 2015, roedd y Brifysgol wedi ceisio cau’r neuadd yn barhaol, gan ddweud bod yr adeilad yn anniogel a gan gynnig llety mewn fflatiau mewn rhan arall o’r campws.

 Cefndir

Roedd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth eisoes wedi llwyddo i atal ymgais gynharach i gau’r neuadd breswyl a fu’n gartref i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith ers 1973 – hi oedd y gynta’ yng Nghymru.

Y llynedd fe fynnodd Prifysgol Aberystwyth y byddai’n rhaid cau’r neuadd am fod angen gwaith atgyweirio sylweddol ar yr adeilad cyn ei bod hi’n saff i fyfyrwyr fyw yno.

Ond wedi’r brotest, fe addawodd y Brifysgol y byddai’r adeilad yn ailagor yn llety i fyfyrwyr ymhen pedair blynedd ar ôl cael ei adnewyddu.

Yn y cyfamser mae myfyrwyr cyfrwng Cymraeg wedi cael eu symud i neuadd gyfagos Penbryn, ac mae rhai o’r ystafelloedd cymunedol ar lawr gwaelod Pantycelyn yn dal i gael eu defnyddio yn swyddfeydd neu ystafelloedd cymdeithasol.

Y brifysgol â’r gair olaf

Mae disgwyl i’r adroddiad gynnwys briff dylunio ac argymhellion yn seiliedig ar astudiaeth annibynnol a wnaed ym mis Ionawr oedd yn argymell “ail-agor” y neuadd cyn gynted â phosib.

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Cyllid a Strategaeth y Brifysgol i gael ei gymeradwyo 27 Mai, ac yna fe fydd Cyngor y Brifysgol yn cael y gair ola’ mewn cyfarfod ar 29 Mehefin.

“Mae’r adroddiad yn cwmpasu’r anghenion y mae UMCA wedi bod yn gofyn amdanynt ers amser,” meddai Llywydd UMCA Hanna Merrigan, un o’r rheiny a feddiannodd y neuadd am gyfnod yn ystod protestiadau llynedd.

“Rwy’n diolch i’r Brifysgol am eu parodrwydd i weithio gyda ni a gwneud Pantycelyn yn flaenoriaeth drwy gwblhau’r adroddiad ar amser.”