Huw Lewis yw Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwadu bod cynlluniau ganddyn nhw i gyflwyno addysg Gymraeg i bob disgybl yng Nghymru, cam a fyddai yn disodli Cymraeg Ail Iaith.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, roedd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis wedi awgrymu ei fod yn bwriadu symud tuag at addysg Gymraeg i bob plentyn mewn cyfarfod ag ymgyrchwyr y mudiad ddydd Mercher.

Ond mae’r llywodraeth wedi gwadu hyn gan fynnu bod yr honiad ei fod wedi cytuno i bolisi addysg Gymraeg i bawb yn “gamarweiniol.”

Er hynny, mi wnaeth y llywodraeth gadarnhau bod y dyfyniadau o’r hyn ddywedodd Huw Lewis yn natganiad gwreiddiol Cymdeithas yr Iaith yn gywir.

Fe ddywedodd Huw Lewis y canlynol wrth y Gymdeithas: “Mae’r cysyniad o’r Gymraeg fel ail iaith yn gysyniad sydd ddim yn gweithio bellach, felly dyw hi ddim yn gwneud synnwyr o gwbl i gael cymhwyster o’r fath.”

Ochr Llywodraeth Cymru

“Tra bod y Gweinidog yn cydnabod, fel mae’r dystiolaeth yn dangos yn adroddiad Sioned Davies, bod problemau â’r ffordd y mae Addysg Gymraeg Ail Iaith yn cael ei chyflwyno, mae honni ei fod wedi cytuno i bolisi addysg Gymraeg i bawb yn gamarweiniol,” meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.

Yn ôl y llefarydd, mae Huw Lewis wedi dangos ei fod am weld pobl ifanc yn gadael yr ysgol gyda sgiliau Cymraeg effeithiol sydd eu “hangen arnyn nhw yn y byd gwaith, bywyd ac astudio”.

“Mae sicrhau bod pobl ifanc yn gadael byd addysg gyda ‘chymhwysedd gweithrediadol’ yn y Gymraeg, a wnaeth Graham Donaldson gyfeirio ato yn ei adroddiad Dyfodol Llwyddiannus, yn hanfodol i’r llwyddiant o sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu,” ychwanegodd.

Ochr y Gymdeithas

“Rydyn ni’n croesawu sylwadau clir y Gwe­inidog yn y cyfarfod gyda ni ddoe bod y ­system bresennol yn methu ein pobl ifanc­ a bod angen ei thrawsnewid. Mae fe a’r ­Athro Sioned Davies yn credu bod angen u­n continwwm dysgu’r Gymraeg er mwyn llwy­ddo,” meddai Toni Schiavone, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Fodd bynnag, mae gyda ni br­yderon y bydd rhai swyddogion a gwleidyd­dion yn ceisio tanseilio’r datblygiadau ­hollbwysig hyn a gweledigaeth y Gweinido­g, newidiadau sy’n symud tuag at addysg Gymraeg i bawb.

“Rydyn ni’n galw ar swydd­ogion y Llywodraeth i weithredu argymhel­lion Yr Athro Sioned Davies, a gafodd ei­ gomisiynu gan y Llywodraeth ei hun. Dyl­ai swyddogion cenedlaethol a lleol wëith­redu ar y weledigaeth honno sydd wedi de­rbyn cefnogaeth gref drawsbleidiol a cha­n arbenigwyr.”

Yn 2012, fe wnaeth pwyllgor, a gafodd ei gadeirio gan yr Athro Sioned Davies, gyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru yn dweud bod angen rhoi’r gorau i ddysgu ‘Cymraeg Ail Iaith’, a bod angen i bawb ddysgu Cymraeg ar yr un continwwm.