Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe
Mae dau athro a oedd wedi cael rhyw mewn swyddfa yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe, Abertawe wedi cael eu gwahardd rhag dysgu am dair blynedd.

Fe glywodd Pwyllgor Cyngor y Gweithlu Addysg dystiolaeth heddiw gan gyn-bennaeth a phennaeth cynorthwyol Ysgol Gyfun Bryn Tawe fod y ddau athro wedi cael rhyw ar dir yr ysgol.

Cafwyd y cyn-bennaeth, Graham Daniels, a’i ddirprwy, Bethan Thomas, yn euog o dri o’r cyhuddiadau yn eu herbyn, a nodwyd eu bod wedi ymddwyn yn “amhroffesiynol”.

Fydd ganddyn nhw ddim hawl i wneud cais i ailgofrestru fel athrawon am dair blynedd.

‘Clip fideo’

Cafodd clip fideo 34 eiliad o hyd yn cynnwys ‘synau rhyw’ ei llwytho i’r safle YouTube gan ddisgybl yn dilyn y digwyddiad.

Mae’n debyg fod y ddau wedi cael perthynas rywiol yn yr ysgol am gyfnod o 11 mis rhwng Mai 2013 a mis Ebrill y llynedd.

Daeth y panel i’r casgliad fod y ddau yn euog o gyflawni gweithred rywiol mewn swyddfa yn yr ysgol ar Ebrill 15 y llynedd, a bod disgyblion yn dystion i’r weithred honno.

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru fod Graham Daniels a Bethan Thomas wedi “torri prif egwyddorion cod ymddygiad CynACC”.

“Honiadau difrifol”

“Roedd y rhain yn honiadau difrifol oedd wedi effeithio ar hyder y cyhoedd yn y proffesiwn, meddai Jacquie Turnbull, Cadeirydd gwrandawiad disgyblu Cyngor y Gweithlu Addysg yng Nghaerdydd:

“Roedd eu hymddygiad yn anghydnaws a safonau athrawon cofrestredig…ac  wedi dod ag anfri ar yr ysgol.”

Mae Graham Daniels a Bethan Thomas, ill dau a oedd yn briod a phobol eraill ar y pryd,  wedi dweud eu bod yn difaru ac yn cywilyddio am eu gweithredoedd.

Fe ddywedodd Graham Daniels wrth y gwrandawiad ei fod yn edifarhau, a bod ganddo “gywilydd mawr “, gan ychwanegu drwy ddweud ei fod wedi “talu pris personol”.