Mae’r tymor academaidd newydd yn arwydd o “gyfnod cyffrous” i’r byd addysg yng Nghymru, yn ôl y Gweinidog Addysg Huw Lewis.

Mae cymwysterau Cymreig newydd wedi cael eu lansio ar gyfer y flwyddyn newydd, a’r nod yw codi safonau llythrennedd a rhifedd.

Ymhlith y cymwysterau newydd sydd wedi cael eu hadnewyddu mae TGAU Mathemateg a Rhifedd, Iaith Saesneg, Iaith Gymraeg, Llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg.

Mae Bagloriaeth Cymru hefyd wedi cael ei haddasu fel ei bod yn cael ei graddio ar bob lefel, ac mae pwyslais newydd ar ddatblygu sgiliau angenrheidiol ar gyfer mynd i’r coleg, i’r brifysgol neu i’r byd gwaith.

Fe fydd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis yn ymweld ag Ysgol Radyr ger Caerdydd ddydd Llun i weld y wers Mathemateg a Rhifedd gyntaf.

‘Embaras’

Wrth i’r cymwysterau newydd gael eu lansio, mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cymwysterau newydd yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol.

Mae’r Ceidwadwyr hefyd wedi cyhuddo’r Blaid Lafur o greu cymwysterau gwahanol i Loegr er mwyn rhoi terfyn ar “gymhariaeth flynyddol sy’n creu embaras”.

Mewn datganiad, dywedodd Angela Burns: “Yn amlwg, mae’n rhaid gwneud rhywbeth i fynd i’r afael â safonau llythrennedd a rhifedd gwael yng Nghymru, ac rydym yn dymuno’n dda i’r holl ddisgyblion yng Nghymru sy’n dilyn y TGAU newydd.

“Fodd bynnag, rydym yn gyson wedi mynegi ein pryderon dwys am benderfyniad Llywodraeth Cymru i sefydlu TGAU i Gymru’n unig ac yn wir, pleidleisiodd nifer o ysgolion yng Nghymru gyda’u traed y llynedd, gan ddewis aros gyda chymwysterau Seisnig.

“Ein pryder mawr gyda’r cymwysterau newydd hyn yw na fyddan nhw’n gredadwy nac yn cael eu cydnabod o amgylch y byd, a byddai hynny’n drychineb i ddisgyblion sy’n haeddu gwell.

“Mae argraff o hyd gyda’r cymwysterau hyn eu bod nhw’n ynysu er mwyn ynysu, a bod Llafur wedi eu creu nhw i roi terfyn ar gymariaethau gyda chanlyniadau TGAU Seisnig sy’n peri embaras.”