Huw Lewis
Mae’r un faint o ddisgyblion TGAU yng Nghymru wedi derbyn graddau A*- C eleni â’r llynedd.
Er bod gostyngiad wedi bod yn y nifer a dderbyniodd y graddau uchaf A*- A, mae cynnydd o 4% wedi bod yn nifer y rhai sydd wedi cyflawni Diploma Bagloriaeth Cymru.
Roedd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, wedi awgrymu y gallai Cymru basio Lloegr o ran canlyniadau TGAU, ond dyw hynny heb ddigwydd.
Mae dau draean o’r rheiny a safodd wedi ennill graddau A*-C – 66.6 %. Dros y Deyrnas Unedig, roedd y ffigwr yn 69% – cynnydd 0.2% o’i gymharu â 2014.
Graddau ucha’
Mae gostyngiad bychan o 0.2% hefyd wedi bod yn y nifer a dderbyniodd y graddau uchaf A*- A o 19.4% y llynedd i 19.2% eleni.
Ond mae’r cyfartaledd trwy wledydd Prydain wedi codi 1.3 pwynt canran.
Mae Huw Lewis wedi llongyfarch disgyblion ar eu canlyniadau, yn enwedig perfformiad cryf Cymru yn y pynciau craidd Saesneg, Mathemateg a Chymraeg.
Mae’r nifer gafodd graddau A* – C yn Saesneg wedi cynyddu o 62.6% yn 2014 i 64.0% yn 2015.
Mae’r rhai enillodd yr un graddau mewn Cymraeg Iaith Gyntaf wedi codi o 72.7% i 73.9% yn 2015 a Chymraeg Ail Iaith wedi cynyddu o 77.7% – 79.4%.
Mae canlyniadau Mathemateg hefyd wedi codi 1.2% gyda 62.8% yn ennill graddau A*-C o’i gymharu â 61.6% ar gyfer blwyddyn academaidd 2013/14
Enillodd dros 13,000 o ddisgyblion Ddiploma Bagloriaeth Cymru hefyd – cynnydd o 4% o’i gymharu â lefelau 2014.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis: “Mae canlyniadau TGAU eleni yn dangos perfformiad cryf arall gyda dros dwy ran o dair o’n dysgwyr yn ennill graddau A * -C.
Gwaith caled
“Mae hyn yn ganlyniad i waith caled ac ymdrech barhaus gan ein disgyblion a’u hathrawon ac rwy’n llongyfarch pawb sy’n gysylltiedig â’r llwyddiant hwn.
“Rwy’n arbennig o falch ein bod wedi gweld perfformiad mor gryf mewn pynciau allweddol gan gynnwys Saesneg, Mathemateg, Cymraeg a Gwyddoniaeth ac mae perfformiad Bagloriaeth Cymru hefyd yn achos i ddathlu.
“Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod ein ffocws ar godi safonau yn gweithio i ddisgyblion yng Nghymru ac rwy’n edrych ymlaen at lefelau A*-C hyd yn oed yn uwch unwaith fydd canlyniadau’r flwyddyn lawn yn cael eu cyhoeddi.”
Ceidwadwyr yn llongyfarch
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi llongyfarch disgyblion ac athrawon ar hyd a lled Cymru ond mae nhw hefyd wedi beirniadu gweinidogion Llywodraeth Lafur Cymru am eu hanallu i godi canlyniadau Cymru ddigon.
“Er bod llawer o deuluoedd yn dathlu ac yn ystyried dyfodol eu plant heddiw, mae hefyd nawr yn ddyletswydd ar weinidogion Llafur i gyfaddef eu methiannau ac ystyried eu camgymeriadau,” meddai llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg, Angela Burns AC.
“Mae canlyniadau cyffredinol ar draws Cymru, yn anffodus, yn parhau i lusgo tu ôl i Loegr. Yn wir, mae’r bwlch wedi lledu er gwaethaf addewidion clir gan Brif Weinidog Cymru i fynd i’r afael a lefelau perfformiad a herio canlyniadau Lloegr.
“Erbyn hyn mae angen dull gwahanol a chynnydd effeithiol ac rwy’n annog Carwyn Jones a’i Weinidog Addysg i wneud datganiad brys ar y canlyniadau heddiw.”