Prifysgol De Cymru
Mae aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn ardal Casnewydd wedi galw ar is-ganghellor Prifysgol De Cymru, Julie Lydon, i ymddiswyddo.

Daw’r alwad wedi iddi ddod i’r amlwg fod campws Prifysgol De Cymru yn Llundain yn cau o fewn blwyddyn i’w lansio.

Yn ôl y BBC heddiw, roedd gan  y campws gyllideb o £750,000 ac yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth, datgelwyd nad oedd unrhyw fyfyrwyr wedi cofrestru ar yr 11 cwrs ôl-raddedig oedd ar gael yn y ganolfan yn ardal dociau Llundain.

Mae’r ymgyrchydd cymunedol, Paul Halliday, wedi arwain ymgyrchoedd yn ardal Casnewydd – gan gynnwys yn erbyn cau campws Prifysgol De Cymru yng Nghaerllion.

‘Gwastraffu bron i £1m’

Dywedodd nad yw Julie Lydon “yn addas” i fod yn is ganghellor Prifysgol De Cymru a dylai “ymddiswyddo yn syth”.

Meddai Paul Halliday, un o ymgeiswyr Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar gyfer rhanbarth dwyrain de Cymru yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf: “O dan ei harweiniad, nid yn unig yr ydym wedi gweld campws Caerllion y Brifysgol yn cael ei chau a chael ei gwerthu yn y pen draw, rydyn ni hefyd bellach yn gweld bron i £1 miliwn yn cael ei wastraffu ar brosiect gwagedd campws Llundain.”

Ychwanegodd fod y myfyrwyr, staff a’r gymuned mae o wedi siarad gyda nhw yng Nghaerllion yn dweud ei bod hi wedi colli eu “hymddiriedaeth a pharch.”

Meddai Paul Halliday: “Wrth i ni barhau i aros dyfarniad terfynol gan y comisiynydd gwybodaeth mewn perthynas â chau Campws Caerllion, mae hyn yn enghraifft arall o’r arweinyddiaeth wael a ddarperir gan Julie Lydon yn y brifysgol.

“Os yw Prifysgol De Cymru am gael unrhyw siawns o symud ymlaen mae angen is-ganghellor newydd a fydd yn gallu dechrau o’r newydd a gwella’r difrod rhwng y weinyddiaeth a’r rhan ddeiliaid eraill.”

‘Profi’r farchnad’

Mewn ymateb i gwestiynau am ei brosiect yn Llundain, dywedodd y Brifysgol mewn datganiad fod y datblygiad wedi cael sêl bendith er mwyn profi’r farchnad ar gyfer myfyrwyr yn Llundain.

Meddai llefarydd ar ran y brifysgol: “Roedd y trefniant yn caniatáu i ni brofi’r farchnad heb gost ariannol fawr.

“Cawsom nifer o geisiadau gan fyfyrwyr ond, ar ôl profi’r farchnad, penderfynodd USW i beidio â bwrw ymlaen ar hyn o bryd. Roedd yr achos busnes yn rhannol  seiliedig ar recriwtio myfyrwyr rhyngwladol.

“Fodd bynnag, mae rheoliadau fisa’r DU wedi newid yn y cyfnod rhwng y penderfyniad i gychwyn y prosiect a’r pwynt lle byddem wedi symud i gofrestru myfyrwyr.

“Mae’r newid hwn wedi cyflwyno lefel o gymhlethdod oedd yn effeithio ar hyfywedd y prosiect.”

Ychwanegodd y brifysgol nad oedd cysylltiad rhwng y campws yn Llundain yn agor a’r penderfyniad i gau campws Caerllion.