Mae ymchwil sydd newydd ei gyhoeddi’n awgrymu bod plant o gefndiroedd llewyrchus 35% yn fwy tebygol na phlant tlawd o gael swydd sy’n talu’n dda, er eu bod yn llai galluog o’i gymharu â’i gilydd.

Cafodd yr ymchwil ei gynnal gan Gomisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant, ac roedd yn canolbwyntio ar fywydau 17,000 o bobol a gafodd eu geni yng ngwledydd Prydain yn ystod yr un wythnos yn 1970.

Ond mae’r ymchwil yn awgrymu bod y patrwm yn gallu cael ei olrhain i genhedlaeth teidiau’r bobol dan sylw.

Roedd llwyddiant y plant dan sylw yn y dyfodol yn ddibynnol ar lefel addysg eu rhieni, y math o ysgol uwchradd wnaethon nhw ei mynychu a’r cymhwyster gorau wnaethon nhw ei dderbyn.

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod plant o gefndir llewyrchus yn tynnu ar rwydweithiau cymdeithasol eu rhieni i ddod o hyd i brofiad gwaith di-dâl, sydd yn ei dro yn arwain at wella sgiliau cymdeithasol a hyder.

Mae’r adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ar ddiwedd yr ymchwil yn awgrymu rhoi’r gorau i gynnig profiad gwaith di-dâl fel modd o greu mwy o gyfleoedd cyfartal.

Rhai o awgrymiadau eraill yr adroddiad yw gwella ansawdd ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig ac addysgu rhieni i wella’u sgiliau.

Dywedodd awdur yr adroddiad, Dr Abigail McKnight o Ysgol Economeg Llundain: “Mae’r ffaith fod teuluoedd dosbarth canol yn llwyddiannus wrth sicrhau’r cyfleoedd gorau yn y system addysg a’r farchnad waith yn rhwystr sylweddol i wella amgylchiadau cymdeithasol plant llai breintiedig.”

Dywedodd cadeirydd y Comisiwn, Alan Milburn fod canlyniadau’r ymchwil wedi datgelu “sgandal gymdeithasol”.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Addysg Llywodraeth Prydain: “Mae’r Llywodraeth yn ymroddedig i sicrhau bod pob plentyn, waeth bynnag am eu cefndir, yn cael yr un cyfleoedd i gyflawni eu potensial.”