Cyngor Sir Ddinbych
Mae galwadau  o’r newydd ar gabinet Cyngor Sir Ddinbych i wrthod cynnig i uno Ysgol Pentrecelyn, ysgol uniaith Gymraeg sydd ag oddeutu 30 o ddisgyblion, gydag Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd, sy’n ysgol ddwyieithog gyda thua 90 o ddisgyblion.

Cyn cyfarfod o gabinet y cyngor prynhawn ma, dywedodd  aelodau o gangen RhAG Sir Ddinbych bod “cyfle euraidd” i sefydlu ysgol Gymraeg newydd.

Ac mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi dweud y byddai’r cyngor yn “bradychu barn y gymuned leol” drwy sefydlu ysgol ddwyieithog arall.

Dywedodd llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Ffred Ffransis: “Petai’r Cabinet yn cytuno i fynd at ymgynghoriad statudol ynghylch cynnig i gau Ysgolion Pentrecelyn a Llanbedr Dyffryn Clwyd a sefydlu Ysgol Ardal Gategori 2 yn eu lle, nid yn unig y byddai barn y gymuned leol yn cael ei bradychu ond byddai hefyd angen chwilio ar frys am gyfieithiad Cymraeg digonol o’r gair disingenuous.

“Ar gyfer y rhieni hynny a fyddent yn dewis amddifadu eu plant o’r gallu i weithio’n Gymraeg, mae digon o fynediad arall at addysg gyfrwng Saesneg yn Rhuthun.”

Amlwg

Mae’r cynnig i gau ysgol Pentrecelyn yn cael ei gyflwyno gan y Cynghorydd Eryl Williams,  Aelod Arweiniol Addysg y Sir.

Ond nid yw’n adlewyrchu teimladau’r rhieni lleol, yn ôl Elfed Williams, Cadeirydd cangen RhAG Sir Ddinbych:

“Gyda 100% o ddisgyblion Ysgol Pentrecelyn a 70% o ddisgyblion Ysgol Llanfair yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, mae’r achos dros ysgol ardal Categori 1 yn gadarn iawn, nid oes cyfiawnhad dros sefydlu ysgol ddwyieithog gyda dwy ffrwd.

“Yn unol ag awydd y sir i gryfhau dwyieithrwydd, trwy ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, mae’n amlwg mai ysgol Gymraeg fyddai’r model a fydd yn cyfrannu sgiliau llawn mewn dwy iaith i bob disgybl. Cam negyddol fyddai cynnal ffrwd Saesneg yn yr ysgol arfaethedig.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Sir Ddinbych.