Yn Llys Ynadon Llandudno, mae ysgrifenyddes a llywodraethwr ysgol gynradd yn Sir Ddinbych wedi ei chyhuddo o ddwyn £10,600 o arian cinio.

Mae Eirian Jarratt, 60 oed, sy’n gweithio yn Ysgol Pendref, Dinbych, ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Fe fydd yr ysgrifenyddes 60 oed yn ymddangos gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug ar Ionawr 30.

Mae hi’n gwadu’r cyhuddiad o dwyllo rhwng Chwefror 2006 a Chwefror 2014.