Y Gweinidog Addysg, Huw Lewis
Bydd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, yn lansio ymgyrch ymwybyddiaeth heddiw i sicrhau bod pawb yn deall y newidiadau i gymwysterau TGAU yng Nghymru.

Daw’r lansiad wrth i fusnesau Admiral, Principality a Brains a Phrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt groesawu’r newidiadau, fydd yn dod i rym fis Medi nesaf, gan ddweud y byddant yn paratoi pobl ifanc yn well ar gyfer y byd gwaith ac addysg bellach.

Mae’r cymwysterau newydd yn cynnwys dwy TGAU newydd mewn mathemateg, TGAU newydd mewn Saesneg Iaith a Chymraeg Iaith a TGAU diwygiedig mewn Llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg.

Bydd y newidiadau hefyd yn gwneud Bagloriaeth Cymru yn fwy trwyadl ac yn gweld diwygio cymwysterau Lefel A ac AS.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y cymwysterau newydd yn rhoi mwy o ffocws ar ddatblygu sgiliau, yn enwedig llythrennedd a rhifedd.

Bydd y Fagloriaeth Gymreig ddiwygiedig yn cael ei raddio ar bob lefel, ac ar y lefel uwch, bydd y strwythur graddio yn gyfwerth â Lefel A.

‘Ymgynghori’

Cyn ymweliad ag Ysgol Gatholig St Richard Gwyn yn Y Barri, un ysgol sy’n treialu’r Fagloriaeth newydd, esboniodd y Gweinidog Addysg, y rhesymeg y tu ôl i’r newidiadau.

Meddai Huw Lewis AC: “Wrth ddatblygu’r diwygiadau addysgol newydd, buom yn ymgynghori â busnesau, ysgolion, colegau a phrifysgolion i gael eu barn ar sut y dylai’r cymwysterau gael eu newid.

“Bydd y cymwysterau hyn yn gwella ac yn diwallu anghenion pobl ifanc ac yn helpu i gefnogi’r economi Cymru.

“Bydd y cymwysterau newydd yn ysgogi, gwobrwyo, ac yn adlewyrchu ymdrechion ein pobl ifanc. Byddant yn cael eu cydnabod fel arwydd o ragoriaeth a byddant yn cael eu parchu gan gyflogwyr a phrifysgolion – nid yn unig yma yng Nghymru ac yn y DU, ond yn rhyngwladol hefyd.”

Prifysgol Rhydychen yn croesawu

Mae’r diwygiadau wedi cael eu croesawu’n eang, yn ôl Llywodraeth Cymru. Dywedodd Dr Samina Khan, cyfarwyddwr derbyn israddedigion ac allgymorth ym Mhrifysgol Rhydychen: “Rydym yn disgwyl i’n myfyrwyr fod yn feddylwyr annibynnol, llawn cymhelliant ac yn barod i fod yn hyblyg.

“Rwy wir yn credu y bydd y cymwysterau newydd, yn enwedig y ffocws newydd ar gryfhau Bagloriaeth Cymru, yn helpu datblygu myfyrwyr i’r cyfeiriad hwnnw.”

Yn amodol ar ddeddfwriaeth, bydd corff annibynnol newydd – Cymwysterau Cymru – yn gyfrifol am reoleiddio a sicrhau ansawdd y cymwysterau newydd.