Disgblion wrth eu gwaith yn Ysgol Glan Clwyd (O wefan yr ysgol)
Mae prifathrawon wedi croesawu’r canlyniadau TGAU ond mae pryder wedi ei fynegi ynghylch y canlyniadau Saesneg.

Gwelodd Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd, welliant o 81% y llynedd i 86% eleni yn y nifer o ddisgyblion a dderbyniodd graddau A* – C – cynnydd o 5%. Galwodd Alun Davies, y prifathro, y canlyniadau yn rhai “aruthrol”.

Roedd tri disgybl yno wedi cael 14 gradd A* yr un a 12 wedi cael 12 A*.

“Rwy’n hapus iawn ac yn hynod o falch,” meddai. “Mae hyn yn ganlyniad i ethig gwaith caled gan y disgyblion, staff a rhieni.”

Dywedodd bod canlyniadau Saesneg yr ysgol yn “sefydlog” a bod yr iaith wastad wedi bod yn bwnc cryf yn yr ysgol.

Pryder am Saesneg

Yn genedlaethol roedd lleihad o 1.6% yn nifer y disgyblion a dderbyniodd graddau A* – C yn Saesneg Iaith, a hynny’n dilyn pryderon tebyg ym mis Ionawr.

Yn ôl athrawon a rhieni roedden y graddau bryd hynny yn “annisgwyl o isel”. Roedd yr arholiadau hynny ar gyfer unedau cymhwyster newydd y TGAU Saesneg Iaith ar gyfer Cymru’n unig.

Yn ôl un prifathro yng ngogledd Cymru, roedd canlyniadau’r ysgol yn “dda iawn” ond roedd y canlyniadau Saesneg yn is na thargedau’r ysgol. Dywedodd: “Os oedd disgyblion yn cael C llynedd doedden nhw ddim yn cael C eleni.”

Yn Ysgol Glan Clwyd, Dinbych, llwyddodd 70% o ddisgyblion i gael pump neu fwy o raddau A* – C.

Dywedodd y prifathro, Martin Davies: “R’yn ni’n hapus iawn, iawn. Mae yna lot o waith wedi mynd mewn ac mae hynny wedi talu eu ffordd.”