Yr Athro Robin Williams, Athro Ioan Williams, Dr John Davies
Mewn seremoni arbennig neithiwr, urddwyd tri Chymrawd Er Anrhydedd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, am eu cyfraniad at addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

Cafodd Dr John Davies, yr Athro Robin Williams a’r Athro Ioan Williams eu hanrhydeddu am eu cyfraniad sylweddol mewn sefydlu a darparu addysg prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Coleg Cenedlaethol yn gweithio i ddatblygu cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru, a neithiwr cafodd tri aelod blaengar eu cydnabod.

Roedd yr Athro Robin Williams yn aelod allweddol o sefydlu’r coleg yn 2011, yn dilyn ei adroddiad fel rhan o’r pwyllgor gweithredu a arweiniodd at ei sefydliad.

Gweithiodd Ioan Williams gyda’r coleg i sefydlu’r cyfnodolyn academaidd Cymraeg, Gwerddon, sy’n rhoi cyfle i academyddion gyhoeddi gwaith ar ystod o bynciau, drwy gyfrwng y Gymraeg.

Roedd yr hanesydd John Davies wedi bod yn darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth am dros 20 mlynedd, tra’n warden adnabyddus yn neuadd Gymraeg y brifysgol, Pantycelyn, dros y cyfnod yma.

‘Llafur cariad’

Mae Dr Hefin Jones, Deon y Coleg a hefyd aelod o fwrdd golygyddol Gwerddon, yn credu bod angen diolch i Ioan Williams am ei gyfraniad i’r cyfnodolyn.

“Heb ddycnwch a dyfalbarhad Ioan Williams, ni fyddai’r Coleg Cymraeg yn medru cefnogi ac ysgogi ymchwil ysgolheigaidd fel y mae’n gwneud bellach, drwy nifer o brosiectau mawr a man, ond yn bennaf drwy gyfrwng Gwerddon.

“Mae gan y Coleg ddyled fawr iddo, a nifer o resymau dros ei anrhydeddu. Ond mae’r Gymrodoriaeth hon, yn anad dim arall, yn gydnabyddiaeth o’r blynyddoedd o lafur cariad sydd wedi rhoi i Gwerddon ac wedi codi statws cyhoeddi academaidd yn y Gymraeg”