Alan Llwyd
Mae prifardd wedi cael ei benodi’n Athro yn Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe.
Er bod Alan Llwyd yn awdur toreithiog ym maes barddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg dyma fydd ei swydd academaidd lawn-amser gyntaf.
“Does dim ots pryd daw swydd,” meddai Alan Llwyd, sy’n byw ar gwr dinas Abertawe yn Nhreforys.
“Dwi’n hynod ddiolchgar i’r Academi a Phrifysgol Abertawe am fy mhenodi i ac yn edrych ymlaen at gyfrannu at ysgolheictod y Brifysgol.
“Bydd cyfle gen i i gyfrannu at raglen ddysgu’r Academi ac ymchwilio i feysydd eraill,” meddai’r awdur.
Kate a Bob
Yn 2011 cyhoeddodd Alan Llwyd gofiant i Kate Roberts ac ynddo daeth i’r casgliad fod gan Frenhines ein Llên ddyhead rhywiol tuag at ferched.
Dywedodd fod cofiant arall sydd ganddo sydd ar fin mynd i’r wasg, am y bardd R Williams Parry, yn llai ymfflamychol ond yn cynnwys deunydd newydd.
“Mae pennod ynddo am y frwydr enfawr fu rhwng Williams Parry a phrifysgol Bangor,” meddai Alan Llwyd am gynnwys ei gofiant ‘Bob.’
“Buodd ar streic ysgrifennu am dair blynedd am nad oedd o’n teimlo fod y brifysgol yn ei drin yn deg.”
Mae tair cyfrol arall y gweill gan Alan Llwyd – cofiant i Waldo Williams, cyfrol o holl gerddi Waldo y mae’n golygu ar y cyd gyda Robert Rhys, a chofiant i’r bardd Gwenallt.
Cyfraniad ‘eithriadol’
Ynghylch penodi Alan Llwyd, dywedodd yr Athro Tudur Hallam, Cyfarwyddwr Ymchwil Academi Hywel Teifi: ‘‘Rhyfedd fel na fu’n rhaid i ni grwydro ymhellach na Threforys i benodi ysgolhaig y byddai unrhyw sefydliad ymchwil o bwys rhyngwladol yn falch ohono.
“Nid gormod dweud bod yr hyn a gyflawnodd yr Athro Alan Llwyd ym maes ysgolheictod y Gymraeg yn eithriadol a safon ei gyhoeddiadau diweddar o’r radd flaenaf. Edrychwn ymlaen at gydweithio ag ef.”