Wrth edrych ymlaen at ail rownd gemau’r gystadleuaeth, Owain Gwynedd sy’n crynhoi perfformiadau rhanbarthau Cymru yn y Cwpan Heineken dros y penwythnos.

Lwc – dyna oedd rhanbarthau Cymru ei angen dros y penwythnos yn y Cwpan Heineken.  Ychydig o lwc yn aml ydi’r gwahaniaeth rhwng ennill, colli a chael lle yn wyth olaf y gystadleuaeth.

Ond mae lwc yn tueddu i newid cyfeiriad fel y gwynt neu, i ranbarthau Cymru, yn newid ochr o ddydd i ddydd.

Nos Wener: Gweilch 38 – 17 Treviso

Yn Stadiwm Liberty, mi oedd lwc tu cefn y Gweilch.

Roedd y tîm cartref yn bell o fod ar ei orau yn erbyn Treviso ond diolch i gais Ashley Beck efo symudiad olaf y gêm, ac fel roedd y cloc yn taro 80 munud, doedd ddim ots am y perfformiad. Mi oedd Beck wedi sgorio pedwaredd cais y Cymry.

Cais oedd yn sicrhau’r fuddugoliaeth a phwynt bonws. Dyma’r lleiafswm oedd angen o’r gêm yma os oedd tîm cryfaf Cymru am gystadlu yn un o’r grwpiau anoddaf y gystadleuaeth.

Er bod y Gweilch yn hedfan yn uchel ar frig y tabl mae angen perfformiad gwell a lot o lwc i gael rhywbeth o’r ddwy gêm nesa. Os na, mi fydd yr ymgyrch yma bron ar ben.

Mae’r daith yn mynd yn anoddach gan fod y llwybr yn arwain i gartref Caerlyr, Welford Road, ac wedyn i Stade Ernest Wallon, Toulouse. Dau dîm sydd yn casáu colli gemau cartref.

Dydd Sadwrn: Clermont Auvergne 49 – 16 Scarlets

Yr unig bwnc trafod ar wefusau cefnogwyr y Scarlets, ar ôl colli yn drwm i Clermont, oedd pa mor anlwcus oedd cerdyn coch Morgan Stoddard.

Cerdyn melyn dadleuol am gamsefyll ar ôl chwarter awr ac yna un arall tair munud cyn yr hanner am beidio rholio ac arfau’r bel yn y dacl. Penderfyniad a wnaeth gêm anodd yn un amhosib.

Er colli’n drwm gall y Scarlets fod yn fodlon efo’i pherfformiad a bod yn hyderus eu bod yn gallu cystadlu efo timau gorau Ewrop.

Pwy â wyr beth fysa wedi digwydd pe bai Stoddard wedi aros ar y cae am yr 80 munud?! Pan oedd o yno, roedd y sgôr yn gyfartal, 13 yr un.

Er mwyn cynnal unrhyw obaith i symud ymlaen y tymor yma bydd rhaid curo’r pencampwyr, Leinster, ar Barc Y Scarlets. Rhywbeth maen nhw eisoes wedi’i gyflawni’r tymor yma.

Dydd Sul: Sale 34 – Gleision 33

Yn y bore, roedd yna oddeutu 18,000 o redwyr yn troedio strydoedd Caerdydd yn yr Hanner Marathon.  Pob un yn ymdrechu ei gorau glas i gwblhau’r cwrs 13.1 milltir. Yn chwysu ac yn dioddef er mwyn cyrraedd y llinell derfyn, ond mi wnaeth rhai fethu gan redeg allan o stêm cyn cyrraedd y diwedd.

Dyna’n union oedd hanes tîm y brifddinas yn y pnawn. Rhedeg allan o stêm, boddi wrth ymyl y lan – yn anlwcus!!!

Perfformiad gora’r Gleision y tymor hyd yma a oedd wedi ei rhoi 15 pwynt ar y blaen hanner ffordd drwy’r ail hanner, diolch i hatrig gan Alex Cuthbert (a hynny am yr ail gêm yn y Cwpan Heineken yn olynol) a throed Leigh Halfpenny.

Ond ar ôl hynny fe darodd y Gleision y wal. Yr eilydd Danny Cipriani yn rhedeg y sioe ac yn llusgo Sale Sharks yn ôl o’r dibyn ac i fuddugoliaeth o bwynt.

Efallai mai dyna fydd thema’r Gleision y tymor yma. Tîm sydd ddim digon da ar y funud ac sydd yn mynd i’w chael hi’n anodd iawn i ennill yr un gêm o hyn ymlaen yn y gystadleuaeth, yn enwedig pan mai Toulon, tîm Jonny Wilkinson, ar y ffordd i Barc Yr Arfau.

Pob lwc!!!!