Non Tudur sy’n pwyso a mesur llwyddiant yr
ŵyl newydd a gafodd ei chynnal ym Mhortmeirion.

Hyd y gwela i, mae Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Dyna’r hyn sy’n cael ei ddweud yn y papurau. Ond sut mae rhywun yn mesur llwyddiant gŵyl newydd mor fawr ac amrywiol â hon?

Mae ambell un ar dudalen Facebook yr ŵyl eisoes yn gofyn ymhle y gallan nhw gael tocyn at y flwyddyn nesa’. Eraill yn lambastio gwyliau fel Reading Festival eleni ac yn dweud y byddan nhw ym Mhortmeirion y flwyddyn nesa’. Glywes i rywun yn dweud ddydd Sadwrn yr ŵyl mai dyma fydd y Greenman newydd. Un arall ar Twitter yn dweud mai dyma’r safle hardda’ ar gyfer gŵyl y mae erioed wedi’i weld. Yn ôl Andy Votel y DJ a’r dylunydd sy’ wedi dotio at recordiau Cymraeg y 70au, gig Heather Jones gyda 9Bach ar y llwyfan Cymraeg/Cymreig nos Wener oedd un o’i ‘fave ever gigs’.

I’r giwed sy’n bennaf yn eu 30au sy’n gwrando’n ddeddfol ar BBC 6Music – yr orsaf sydd wedi bod yn hybu’r ŵyl yn ddi-dor ers dechrau’r haf ac wedi chwarae recordiadau byw o sèt New Order, Toy, Everything Everything, Gruff Rhys, The Wave Picture ac yn y blaen trwy’r wythnos ddiwetha’ ’ma – roedd hi’n ŵyl ddelfrydol.

Rhain oedd y bobol a fuodd yn mynd i ŵyl Glastonbury nôl yn y 90au i rêfio yn y goedwig. Ac roedden nhw’n cael gwneud hynny nawr, ugain mlynedd yn ddiweddarach, mewn awyrgylch braf, ddiogel, gyda phensaernïaeth Eidalaidd yn gefnlen. Roedden nhw’n cael ymlacio gyda gwydred o rym wrth edrych dros Ynys Gifftan draw at Dalsarnau. Roedden nhw’n cael dawnsio ar y cwch o dan y gwesty, o flaen bar siampên. Roedden nhw’n cael gwrando ar sgwennwyr fel Caitlin Moran yn sgwrsio ar y piazza, mewn seddi cyffyrddus, gyda pheint yn eu llaw. Roedden nhw’n cael teimlo’n hanner ifanc eto, a hynny mewn steil.

Roedd yr arwyddion yn gwbl ddwyieithog trwy’r pentref i gyd. Mi wnaeth i’r Cymry Cymraeg ymlacio yn syth, hyd yn oed cyn iddyn nhw ddechrau ar y daith o’r bws i’r lle campio. Un o’r pebyll cyntaf i’ch croesawu oedd pabell ‘Gerddi’r Castell/Castle Gardens’ ger gwesty hardd Castell Deudraeth, lle’r oedd yno soffas cyffyrddus a miwsig dawns mwyn, hypnotig. ‘This is where you come to chill-out,’ meddai’r dyn mewn siaced felen, a ninnau yn chwys drabŵd yn holi am yr eildro am swyddfa’r wasg. Aethon ni ddim yn ôl; roedd gormodedd o bethau eraill i’w gweld.

Ar y lluniau ar Facebook, mae pobol a fu yn yr ŵyl yn mynegi syndod o weld lluniau o lefydd bach dirgel anghyfarwydd. Sesiwn gyda Tim Burgess (Charlatans) yn Neuadd Ercwlff, er enghraifft. Y ddau pop-up rave yn y Gwyllt. Y brosesiwn lanternau. Gêm wyddbwyll gyda phobol yng ngwisgoedd The Prisoner. Ond wedyn, roeddech chi’n bownd o ddarganfod rhywbeth oedd at eich dant. Roedd nifer o Gymry yn tueddu i fudo fel gwenyn bach prysur o un perfformiwr Cymreig i’r llall – rhwng Euros Childs ar lwyfan rhif 6 i Richard James i lawr yn y pentref. Ta waeth; fel’na r’yn ni. Mae e yn rhywbeth i wneud gyda pheillio.

Roedd pawb yn un yn gwylio Côr y Brythoniaid yn canu cân enwog New Order, ‘Blue Monday’. Bois y Blaenau yn taclo un o ganeuon arloesol clybiau nos y ‘90au. Syniad campus, a phrofiad bythgofiadwy.

R’yn ni eto i glywed barn pobol y fro, yn iawn. A barn Robin Llywelyn am effaith yr ŵyl newydd sbon danlli ar ddyfodol y pentref. Roedd ambell un ar eu colled – fel yr artist Rob Piercy sydd ag oriel yno; doedd neb eisiau gwario cannoedd ar lun drudfawr o’r Glyderau yng nghanol gŵyl fiwsig.

Roeddwn i nôl yn Pendryn ganol yr wythnos, a digwydd holi rhywun a oedden nhw wedi clywed y sŵn. Do, medden nhw, ac wedi synnu ei fod mor hwyr (roedd ambell babell a pharti wedi para tan 4 y bore). Ond doedden nhw ddim fel petaen nhw yn becso llawer – wedi hen arfer â phartis gwyllt yn y rhan yma o Gymru efallai. Roedd Robin Llywelyn wedi ceisio darbwyllo’r amheuwyr cyn yr ŵyl ei fod yn rhinwedd swydd y pentref hynod hwn i hybu celfyddyd a dawns a cherddoriaeth a hwyl. Y mae Gŵyl Rhif 6 wedi profi bod y pentref yn gallu gwneud hynny. Ond a fydd y pentref ei hun – a’r ardal – yr un mor barod â’r un mor amyneddgar i groesawu’r miloedd sy’n bownd o dyrru yno flwyddyn ar ôl blwyddyn? Ac a saif yr arwyddion Cymraeg?