Dylan Iorwerth yn egluro pam fod y cliche’n gywir.

Efallai mai hwn fydd yr etholiad ola’ o’i fath yng ngwledydd Prydain.

Os bydd yn senedd grog a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn taro bargen gydag un o’r ddwy blaid fawr Brydeinig arall, maen nhw’n debyg o fynnu cael pleidleisio cyfrannol go iawn.

Mi fyddai hynny’n golygu seddi mawr gyda rhestrau – dim cystadlaethau lleol, dim aros ar binnau yn oriau mân y bore i weld beth sydd wedi digwydd yn y lle a’r lle, a dim canlyniadau cwbl annisgwyl.

Dyna y mae’r polau piniwn yn ei awgrymu ar hyn o bryd, ond mae yna lawer a allai newid yn ystod yr oriau nesa’.

Mi fydd y Ceidwadwyr yn gobeithio am un hwb ola’ – bod pobol yn gweld mai nhw sydd ar y blaen ac, felly, man a man eu cefnogi ac osgoi strach senedd grog.

Mi fydd Llafur yn gobeithio am ganlyniad tebyg i 1992 pan oedd safle John Major a’r Torïaid bron mor ddigalon ag un Brown a Llafur heddiw (bron).

Bryd hynny, mi gafodd pobol ofn ar y funud ola’ a doedden nhw ddim yn casáu’r Ceidwadwyr ddigon nac yn caru Llafur a Neil Kinnock ddigon i orfodi newid.

Model y pedair Cymru

Yng Nghymru, fel arfer, dydi patrymau’r polau piniwn cenedlaethol ddim yn dal dŵr – mae cymdeithasegwyr iaith yn licio sôn bod yna dair Cymru – Cymraeg, di-Gymraeg a Seisnig; ym myd gwleidyddiaeth, mae yna fwy na hynny.

  • Mae gan Blaid Cymru ei Chymru bosib, sy’n cynnwys y Gogledd-orllewin a rhannau o’r gorllewin ac, efallai, Geredigion.
  • Mae gan y Democratiaid eu Cymru, sy’n cynnwys y Canolbarth a rhannau o ddinasoedd y De.
  • Llafur sydd biau’r Cymoedd o hyd ac mae’r Ceidwadwyr yn gryf yn ardaloedd yr iseldiroedd lle daeth y Normaniaid i mewn gynta’.

Mae’r brwydrau wedyn yn amrywio o le i le a’r canlyniadau’n dilyn. Y tro yma, fe allai Plaid Cymru gipio Llanelli a Môn, ond mae’n amheus a gaiff hi Geredigion.

Y broffwydoliaeth

Os felly, mi fydd y Democratiaid yn cadw’u pedair sedd ac efallai’n cipio un yng Nghasnewydd ac Abertawe ac o bosib, o bosib yn Wrecsam.

Mi ddylai’r Ceidwadwyr ennill tua phedair neu pum sedd newydd, gan orffen gyda llawer llai na’u hanterth yn 1983. Mae Llafur yn sicr o golli ond petaen nhw’n cadw seddi Casnewydd a Wrecsam ac un neu ddwy o’r seddi ymylol eraill, mi fydden nhw’n ddigon hapus.

Ac os ydi’r holl ddarogan yn gywir, mi fydd hanes yn cael ei greu mewn ffordd arall. Am y tro cynta’ mi fydd llywodraeth o un lliw yng Nghaerdydd ac un o liw arall yn Llundain.

Diddorol, hanesyddol – wir yr!