Ar y Stondin Gelf ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst eleni mae’r artist Lisa Eurgain Taylor o Ynys Môn yn arddangos ei gwaith “arallfydol”.

Ar y ffordd i’r eisteddfod eleni bydd ymwelwyr wedi profi’r mynyddoedd o amgylch Parc Cenedlaethol Eryri sydd, i raddau, wedi ysbyrdoli’r gwaith.

Mae Lisa Eurgain Taylor, wnaeth raddio o Goleg Celf Wimbledon yn 2013, yn creu gwaith sydd hefyd yn cyfleu neges bwysig.

“Mae’r lluniau i gyd wedi cael eu hysbrydoli gan fynyddoedd Eryri ond llefydd dychmygol arallfydol ydyn nhw,” meddai Lisa Eurgain wrth golwg360.

“Maen nhw’n bodoli yn y gorffennol pell mewn ffordd, does ‘na ddim peilonau na llwybrau na dim yn agos iddynt. Felly maen nhw’n bodoli mewn oes sydd heb gael ei ddifetha gan ddyn.”

Mae Lisa Taylor yn defnyddio golau yn ei gwaith i ddangos bod gobaith i ddyn “agor eu llygaid” i feddwl am warchodaeth byd natur.

Paent olew yw’r prif ddeunydd mae’r artist yn defnyddio gan ddefnyddio technegau brwsh a lino-cut er mwyn cael cyferbyniad rhwng llyfnder y cefndir a’r gwead creigiog mynyddig.