Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am fwrgleriaeth yn ardal Llaneirwg yng Nghaerdydd.

Fe ddigwyddodd ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 27), pan dorrodd y dynion ffenest yng ngefn yr eiddo rhwng 4.38 a 4.53yp.

Fe wnaethon nhw ddwyn Range Rover du, gemwaith a bagiau drud ac allweddi.

Cafwyd hyd i gar y tri dyn wedi’i adael yn ardal Trelai.

Mae’r heddlu’n ceisio adnabod y tri, ac mae’r ymchwiliad yn parhau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.