Dylan Iorwerth sy’n darllen yr adroddiad newydd am bwer Senedd yr Alban…

Pan fydd adroddiad newydd yn landio ar eich desg, mae yna un peth sy’n rhaid ei wneud. Cyn edrych ar y crynodeb hyd yn oed.

Mae’n rhaid edrych i weld pwy oedd wedi’i gomisiynu. Yn hynny, yn aml iawn, y mae’r cliw gorau am sut i’w ddarllen.

Yn yr ysbryd hwnnw y mae eisiau darllen yr adroddiad newydd am bwer Senedd yr Alban – yr un sy’n awgrymu rhoi’r hawl iddi reoli hanner treth incwm y wlad.

Ar yr olwg gynta’, mae Adroddiad Calman yn swnio fel cam ymlaen … nes i chi sylweddoli mai’r Blaid Lafur oedd wedi’i gomisiynu.

Mae yna rybudd yn hyn i gyd i’r rhai sy’n galw ar i Gymru gael hawliau tebyg i’r Alban.

Y nod, meddai’r rheiny, ydi sicrhau fod y Senedd yn Holyrood yn atebol – fod unrhyw gynnydd mewn gwario yn cael ei ddangos yn nhrethi’r bobol.

Petaen nhw o ddifri ynglyn â hynny, mi fydden nhw yn rhoi gofal yr economi cyfan yn nwylo Caeredin, gan gynnwys yr incwm o olew a nwy Môr y Gogledd.

Pe bai Holyrood am godi trethi, fe fyddai’n rhaid codi’r lefel sylfaenol – nid y graddfeydd ucha’n unig. A dyna’r cyfyngiad mawr.

Fel gyda’r pwerau sydd ganddi eisoes i amrywio hyd at 3c ar y dreth, mae Llafur yn gwybod yn iawn na fyddai Senedd Albanaidd yn gwneud hynny.

Trwy gyfyngu’r pwer i raddfa sylfaenol y dreth, fe fydd unrhyw gynnydd yn cosbi pobol ar gyflogau isel yn fwy na’r gweddill … a phwy fyddai eisio hynny?