Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi dros £300,000 mewn cynllun peilot prentisiaethau ym maes coedwigaeth.

Caiff y buddsoddiad ei gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Tachwedd 26) gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, y Farwnes Eluned Morgan, wrth i Lywodraeth Cymru gyd-ariannu’r cynllun gyda Chronfa Gymdeithasol Ewrop.

Bydd yn helpu i feithrin sgiliau fel torri a thocio coed, rheoli coetiroedd, cynhyrchu sglodion pren ac ailblannu coed, ac yn creu sicrwydd mewn maes a allai gael ei effeithio’n sylweddol gan Brexit.

Fe fydd hyn yn cael ei gyflawni drwy gefnogi hyd at 30 o swyddi coedwigaeth, annog a chefnogi arallgyfeirio ar ffermydd, gwella sgiliau sy’n ysgogi ffynonellau coed cynaliadwy a chreu rhwydweithiau o gysylltiadau cyflogwyr.

“Mae’r buddsoddiad hwn mewn sgiliau coedwigaeth a chymorth cyflogaeth yn hanfodol os ydym am i bobl gydnabod rheoli fforestydd a choetiroedd fel  llwybr gyrfa posibl,” meddai’r Farwnes Eluned Morgan yn Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

“Rydym yn dibynnu ar y diwydiant coedwigaeth i reoli ein coetiroedd yn gynaliadwy a rhoi adnoddau adnewyddadwy i ni. Byddai hynny’n amhosibl heb sicrhau bod y sgiliau cywir yn eu lle.”

‘Gwir angen gweithwyr’

Coleg Sir Gâr fydd yn cyflwyno’r rhaglen brentisiaethau a fydd ar gael yn y de, y gorllewin a’r canolbath.

“Mae gwir angen gweithwyr sydd â’r sgiliau cywir yn y diwydiant. Gyda chynlluniau peilot fel hyn, gallwn annog mwy o bobl i ddod yn goedwigwyr,” meddai Pennaeth Cwricwlwm Astudiaethau ar Dir y coleg, David Davies.

“Byddwn yn cefnogi’r prentisiaid i gwblhau eu hastudiaethau Lefel 2 a 3 mewn Coed a Phren, Peirianneg ar Dir a Chadwraeth Amgylcheddol, gan roi’r sgiliau iddynt fynd ymhellach yn eu gyrfa yn y diwydiant coedwigaeth.”

“Mae’n coetiroedd yn darparu adnoddau adnewyddadwy sy’n hanfodol i ddiwydiannau allweddol yng Nghymru, a bydd rhaid i ni sicrhau bod y coetiroedd hynny yn cael eu rheoli’n gywir,” meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn.

“Yn ôl ym mis Mehefin, cyhoeddais ddiweddariad o’r strategaeth coetiroedd a choed, sy’n nodi’r math o goetiroedd yr ydym am eu gweld.

“Mae’r sgiliau a’r wybodaeth arbenigol sydd yn y sector yn allweddol i gyflwyno’r strategaeth honno.”