Mae un o aelodau amlyca’r Blaid Lafur ym Môn yn credu y gallai Eluned Morgan fod yn ddewis da i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru.

Yn gynghorydd tref tros Lafur yng Nghaergybi, ac yn gyn-gynghorydd sir ym Môn, mae John Chorlton yn aelod o’r Blaid Lafur ers bron i hanner canrif.

Mae si ar led bod Eluned Morgan ar fin cyhoeddi ei bod am sefyll i fod yn fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru.

Ac mae John Chorlton yn canu clodydd y Gweinidog tros yr iaith Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, sydd hefyd yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi, ac yn wleidydd etholedig ers 1994.

“Mae Eluned [Morgan] yn dod a lot o brofiad,” meddai.

“Mae hi wedi bod yn [Aelod o Senedd] Ewrop ers rhai blynyddoedd, ac yn gwybod yn union sut mae’r blaid yn rhedeg, sut mae’r gwahanol lywodraethau yn rhedeg.

“Fyswn i ddim yn meindio gweld hi yna.

“Ella mai dyna’r newid yr ydan ni eisiau – dynes.”

Ac mae’r cynghorydd o Fôn am weld siaradwr Cymraeg yn y brif swydd.

“Mae hanner y swydd yn siarad Cymraeg, dim jesd Saesneg, wedyn mae o’n bwysig bod rhywun yn medru trafod pethau yn yr iaith Gymraeg,” meddai John Chorlton.

“Fyswn i’n licio gweld rhywun sy’n siarad Cymraeg yn cymryd y swydd, fel bod nhw yn hybu Cymru dros y byd.”