Mae Tsieina wedi cyflwyno deddfwriaeth sy’n golygu y bydd arlywydd y wlad yn cael aros yn ei swydd am ba hyd bynnag a fynno.

Mae’r ddeddfwriaeth yn diddymu tymhorau penodol ar gyfer y swydd, sy’n golygu na fydd rhaid i Xi Jinping gamu o’r neilltu o fewn amser penodol.

Pleidleisiodd 2,958 o bobol allan o 3,000 o blaid y cynnig.

Roedd y rheol yn bod cyn 1982, ond fe gafodd y cyfnod penodol ei gyflwyno wedyn gan y cyn-arweinydd Deng Xiaoping er mwyn atal chwyldro tebyg i’r hyn a gafwyd o dan reolaeth Mao Zedong rhwng 1966 a 1976.