Mae’r Gymraes Laura Deas wedi ennill medal efydd yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn Pyongchang.

Roedd hi’n drydydd yng nghystadleuaeth y sgerbwd, wrth i Lizzie Yarnold gipio’r fedal aur i Brydain, y tro cyntaf i ferch o Brydain ennill y fedal aur ddwywaith yn olynol. Hi hefyd yw’r Gymraes gyntaf i ennill medal yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf.

Roedd hi’n edrych yn debygol tua diwedd y gystadleuaeth na fyddai Laura Deas, sy’n hanu o Wrecsam, yn ennill medal gan ei bod hi’n chweched ar ôl gwneud camgymeriad. Ond llwyddodd hi i godi i’r safleoedd medalau yn y pen draw ar ôl dechrau heddiw yn bedwerydd.

Dyma’r tro cyntaf hefyd i ddau o athletwyr o Brydain ymddangos ar y podiwm gyda’i gilydd yn yr un Gemau.