Ar ôl bron bum mis o drafod, mae Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, wedi cael cytundeb gyda dwy blaid arall er mwyn gallu ffurfio llywodraeth.

Ond fe fydd rhaid i’r cyfan gael ei gytuno gan aelodau’r brif blaid arall, y Democratiaid Cymdeithasol, ac mae gan rai ohonyn nhw amheuon.

Mae’n ymddangos mai’r cyfaddawd a setlodd pethau oedd fod Angela Merkel wedi rhoi’r Weinyddiaeth Ariannol – Trysorlys yr Almaen – i’r Democratiaid Cymdeithasol sydd ychydig i’r chwith o’r canol.

Maen nhw hefyd yn awyddus i weld yr Almaen yn chwarae rôl fwy amlwg eto yn yr Undeb Ewropeaidd.

Y cefndir

Y broblem i’r arweinwyr yw fod llawer o aelodau’r Democratiaid Cymdeithasol yn anhapus ar ôl i’w plaid ddiodde’n ddrwg yn yr etholiad diwetha’ – maen nhw’n rhoi’r bai ar hynny ar y glymblaid oedd ganddyn nhw gyda’r CDU, plaid Angela Merkel.

Pe bai’r aelodau’n gwrthod, fe fyddai’n rhaid i Angela Merkel geisio cynnal llywodraeth leiafrifol neu alw etholiad arall.

Fe ddywedodd y gallai’r fargen heddiw fod yn sail i’r “llywodraeth dda a sefydlog y mae ei hangen ar ein gwlad ac y mae llawer yn y byd yn ei ddigwyl gynnon ni”.