Mae o leiaf ddau o bobol wedi’u lladd a 50 o bobol wedi’u hanafu yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau drên yn Ne Carolina yn yr Unol Daleithiau.

Yn ôl adroddiadau lleol, digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng yr Amtrak a’r trên nwyddau am 2.35am.

Roedd yr Amtrak yn teithio o Efrog Newydd i Miami ar y pryd. Roedd wyth aelod o staff ac oddeutu 139 o deithwyr ar y trên.