Mae nifer o gwmnïau blaenllaw wedi datgelu bod eu staff benywaidd yn derbyn mwy na 15% yn llai o gyflog na dynion, gan gynnwys Virgin Money, easyJet a Ladbrokes.

Mae tros 500 o gwmnïau sy’n cyflogi mwy na 250 o staff wedi datgelu eu bwlch cyflogau, sy’n dangos y bwlch rhwng cyflogau dynion a menywod.

Yng nghwmni awyrennau easyJet, mae menywod yn derbyn 52% yr awr yn llai na dynion ar gyfartaledd. 15% yw’r ffigwr ar gyfer Ladbrokes, a 33% ar gyfer Virgin Money.

Ond mae’r tri chwmni’n dweud bod dynion a menywod sy’n gwneud yr un swyddi’n derbyn yr un cyflog, ac yn dweud mai’r prif reswm am y bwlch yw fod mwy o ddynion mewn swyddi uwch.

Cynrychiolaeth

Dim ond 6% o beilotiaid easyJet, er enghraifft, sy’n fenywod, ac maen nhw’n ennill cyflog o £92,400 ar gyfartaledd. Ond merched yw 69% o’r criw, ac maen nhw’n ennill £24,800 ar gyfartaledd.

Dywed y cwmni eu bod nhw’n ceisio cyflogi rhagor o fenywod, ac mae ganddyn nhw darged o 20% o fenywod wrth recriwtio peilotiaid newydd erbyn 2020.

Yn ôl Ladbrokes, “cynrychiolaeth isel ar lefel uwch” sy’n gyfrifol am y bwlch mewn cyflogau, ac maen nhw wrthi’n ceisio cyflogi mwy o fenywod.

Dywed Virgin Money fod ganddyn nhw darged o gydbwyso cyflogau 50:50 erbyn 2020 – dim ond 35% o’r chwarter uchaf o gyflogau sy’n cael eu hennill gan fenywod. Ond 73% o’r chwarter isaf o gyflogau sy’n cael eu hennill gan fenywod hefyd.

Yn ôl y BBC, mae cyflogau cyfartalog menywod yr awr 10.7% yn is na chyflogau dynion – a 30% yn is ar gyfer staff y Co-operative Bank.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y bwlch cyflog a chyflog cyfartal?

Mae’n orfodol i gwmnïau sy’n cyflogi mwy na 250 o staff gyhoeddi eu bwlch cyflog bob blwyddyn erbyn mis Ebrill bob blwyddyn.

Mae’r bwlch cyflog yn wahanol i gyflog cyfartal, sy’n trafod cyflogau dynion a menywod sy’n gwneud yr un swyddi.

Ymhlith y cwmnïau lle nad yw’r bwlch cyflog yn bod mae’r Amgueddfa Brydeinig a’r Lluoedd Arfog.