Mae newyddiadurwr ABC News yn yr Unol Daleithiau wedi cael ei wahardd o’i waith yn dilyn adroddiad gwallus oedd yn cyhuddo’r Arlywydd Donald Trump o orchymyn y cyn-ymgynghorydd diogelwch cenedlaethol, Michael Flynn i gysylltu â Rwsia yn ystod yr ymgyrch arlywyddol

Daeth yr honiadau mewn adroddiad gan Brian Ross ddydd Gwener.

Ond oriau’n ddiweddarach, dywedodd y gohebydd fod ei ffynhonnell wedi egluro bod y gorchymyn wedi dod ar ôl i Donald Trump gael ei ethol.

Mae Brian Ross wedi’i wahardd am bedair wythnos, a fydd e ddim yn derbyn ei gyflog yn ystod y cyfnod hwnnw.

‘Erledigaeth’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad ar Twitter, dywedodd Donald Trump: “Llongyfarchiadau i @ABCNews am wahardd Brian Ross am ei adroddiad ofnadwy o anghywir ac anonest ar Erledigaeth Rwsia, Rwsia, Rwsia. Dylai rhagor o Rwydweithiau a “phapurau” wneud yr un fath gyda’u Newyddion Ffug!”

Yn ei dro, eglurodd Brian Ross ar ei dudalen Twitter: “Fy ngwaith y dal pobol i gyfrif a dyna pam fy mod yn cytuno â chael fy nal i gyfrif fy hun.”

Mae ABC News wedi ymddiheuro yn dilyn beirniadaeth, gan egluro nad oedd eu proses safonau golygyddol wedi bod yn llwyddiannus yn yr achos hwn.

Brian Ross

Ymunodd Brian Ross, 69, ag ABC News yn 1994 ac mae e wedi ennill llu o wobrau newyddiadurol.

Ond mae e hefyd wedi cael ei feirniadu yn y gorffennol.

Yn 2012, fe fu’n rhaid i ABC News ymddiheuro pan ddywedodd fod gan James Holmes, oedd wedi’i amau o saethu pobol yn farw mewn sinema yn Colorado, gysylltiadau â’r Tea Party. Ond fe ddaeth i’r amlwg wedyn mai ‘Jim Holmes’ gwahanol oedd y person hwnnw.