Mae 11 o dywysogion wedi’u harestio yn Saudi Arabia ar ôl gwrthod gadael palas y brenin wedi iddyn nhw gynnal protest yno.

Yn ôl gwefan newyddion yn y wlad, cafodd milwyr sy’n gwarchod y brenin orchymyn i arestio’r tywysogion.

Maen nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa yng ngharchar Ha’ir, lle mae troseddwyr, gwrthryfelwyr ac aelodau al-Qaida’n cael eu cadw.

Mae lle i gredu bod y tywysogion yn hawlio iawndal yn dilyn ffrae ag un o’u cefndryd, ac yn galw am dro pedol ar benderfyniad i atal taliadau am filiau dŵr a thrydan.