Mae aelodau Cyngres Brasil wedi penderfynu na fydd eu harlywydd yn wynebu achos llys yn sgil cyhuddiadau o lygredd wleidyddol.

Pleidleisiodd 251 o aelodau o blaid yr Arlywydd Michel Temer yn ystod pleidlais ddydd Mercher (Hydref 25) – roedd angen cefnogaeth o leiaf 171 aelod.

“Rydym yn mynd i fod yn sownd ag arlywydd aneffeithlon am flwyddyn arall,” meddai aelod o’r Gyngres wnaeth bleidleisio yn ei erbyn.

Mae’r cyhuddiadau yn erbyn Michel Temer yn deillio o ymchwiliad i droseddau ariannol  – mae dwsin o wleidyddion a dynion busnes eisoes wedi’u carcharu yn sgil yr ymchwiliad.

Mae erlynyddion yn honni bod Llywodraeth Brasil wedi bod yn gwneud cytundebau ar y slei â dynion busnes ers rhai blynyddoedd.