Ben Lake (Llun o'i gyfrif Twitter)
Brodor o Lanbedr Pont Steffan sydd wedi’i ddewis i gynrychioli Plaid Cymru yng Ngheredigion ar gyfer yr etholiad cyffredinol brys ym mis Mehefin eleni.

Ac mae Ben Lake yn dweud fod y cyfnod nesaf yn un “hynod o bwysig” i’r sir ac i Gymru gyfan.

“Gydag amseroedd cythryblus o’n blaenau, mae’r etholiad hwn yn gyfle inni godi llais Ceredigion yn San Steffan,” meddai’r ymgeisydd sydd wedi gweithio am gyfnod yn Swyddog y Wasg i Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones.

“Ni allwn ganiatau i Brexit eithafol ddifrodi ein cymunedau ffermio a gwledig, ynghyd â’n prifysgolion pwysig.

“Mae hwn yn gyfnod hynod o bwysig i’n sir a’n gwlad, a byddwn i’n freintiedig i amddiffyn buddiannau Ceredigion yn San Steffan.”

Cafodd Ben Lake ei ddewis mewn hystings yn neuadd Llwyncelyn, Aberaeron nos Fawrth (Ebrill 25). Dyma fydd y tro cyntaf iddo sefyll mewn etholiad.

Fe fydd yn herio Mark Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol, Aelod Seneddol Ceredigion ar hyn o bryd.