Mae ymchwil gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dangos fod 73% yn fwy o swyddi cynghorau sir Cymru yn galw am y Gymraeg fel sgil hanfodol ers cyflwyno’r Safonau Iaith yn 2016.

Mae canlyniadau eu ceisiadau rhyddid gwybodaeth yn dangos cynnydd o 73% gyda nifer y swyddi sy’n gofyn am y Gymraeg yn codi o 352 i 607, gyda’r rhain yn cynnwys Ynys Môn, Conwy, Merthyr Tudful, Torfaen, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg.

Ers cyflwyno’r ddeddf, mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi symud at system lle mae pob swydd yn gofyn am rywfaint o sgiliau Cymraeg, ond fe wnaeth Gwynedd, Caerdydd a Phowys weld cwymp yng nghanran y swyddi lle mae’r Gymraeg yn hanfodol.

‘Ffordd bell’

“Mae arwyddion cadarnhaol yn y ffigyrau hyn, ond mae ’na ffordd bell i fynd o hyd,” meddai Manon Elin ar ran Cymdeithas yr Iaith gan ddweud fod angen ymateb “yn well” i gynghorau sy’n gweinyddu’n fewnol drwy’r Gymraeg beth bynnag.

 

“Wrth i’r Llywodraeth baratoi at gryfhau’r ddeddfwriaeth dros y blynyddoedd nesaf, mae cynllunio’r gweithlu’n well yn un maes y dylid edrych arno gan adeiladu ar yr arwyddion gobeithiol cychwynnol sydd i’w gweld yn yr ystadegau hyn,” meddai.

“Dyna pam fod angen sefydlu hawliau cyffredinol i’r Gymraeg ar wyneb y ddeddf, ei hymestyn i gynnwys gweddill y sector breifat a gwella cynllunio’r gweithlu.”