Canolfan Yr Egin (Llun: Prifysgol y Drindod Dewi Sant)
Mae’r Adran Ddiwylliant yn San Steffan wedi cyhoeddi bydd gan S4C yr hawl i fenthyca hyd at £10 miliwn i ariannu pencadlys newydd y sianel yng Nghaerfyrddin.

Mi fydd yr arian yn caniatáu taliad rhent ymlaen llaw S4C i Brifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant ar gyfer adeilad yr Egin.

Hefyd bydd y benthyciad yn cyfrannu tuag at gostau offer technegol ar gyfer cynlluniau’r cwmni i rannu gwasanaethau darlledu gyda BBC Cymru yn eu pencadlys newydd yng Nghaerdydd yn 2019.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd wedi cyhoeddi buddsoddiad o £350,000 a fydd yn galluogi’r darlledwr i uwchraddio offer technegol a thechnoleg gwybodaeth.

“Sicrhau dyfodol S4C”

Mae S4C wedi croesawu ymrwymiad y Llywodraeth “i sicrhau dyfodol S4C.”

Dywedodd Huw Jones, cadeirydd awdurdod S4C: “Bydd y benthyciad o £10m, a gaiff ei ad-dalu dros gyfnod gan S4C i DCMS, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dau bwrpas penodol: i gyfrannu tuag at gostau offer technegol ar gyfer cynlluniau arfaethedig S4C i rannu gwasanaethau darlledu gyda BBC Cymru yn eu pencadlys newydd yng Nghaerdydd yn 2019 ac yn ogystal i ddarparu ariannu dros-dro er mwyn caniatáu taliad rhent ymlaen llaw S4C i Brifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant ar gyfer les yr Egin yn 2018 hyd nes y bydd pencadlys presennol S4C yn Llanisien wedi ei werthu.

“Bydd gweddill y benthyciad yn cael ei ad-dalu o arbedion fydd yn deillio o’r ddau gynllun.”

“Buddion anferthol”

“Mae’r buddsoddiad yn sicrhau y bydd S4C mewn sefyllfa ariannol ddiogel am flynyddoedd i ddod gan sicrhau bydd gwylwyr teledu yn medru mwynhau rhaglenni Cymraeg o’r safon uchaf,” medd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.

“Bydd yna fuddion anferthol i Gaerfyrddin wrth i gannoedd o swyddi gael eu creu yn lleol a gyda miliynau yn mynd tuag at economi’r ardal.”

Roedd S4C wedi cyfrannu £114 million i economi Cymru yn 2015/16 ac, yn ôl y sianel, roedd nifer y gwylwyr wedi codi i’w lefel uchaf ers naw mlynedd, gan ddenu 629,000 o wylwyr bob wythnos ar gyfartaledd.

Beirniadu toriadau

Yn y cyfamser, mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu toriadau i S4C wrth i Lywodraeth Prydain gyhoeddi y bydd gan y sianel £350,000 o arian cyfalaf ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Ond mae’r mudiad yn nodi eu bod eisoes wedi awgrymu torri grant refeniw’r sianel o £700,000 o fis Ebrill gyda chyfraniad refeniw’r Adran Ddiwylliant yn gostwng o £6.7 eleni i £6 miliwn.

“Mae’r datganiad heddiw yn drychinebus i S4C,” meddai Carl Morris ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae’r Llywodraeth yn ceisio sbinio’r toriadau pellach fel newyddion da, ond dydyn nhw ddim yn gallu cuddio’r gwirionedd. Mae’n edrych fel bod y toriad o £700,000 yn mynd yn ei flaen – toriad sylweddol ar ben toriadau anferthol dros y 7 mlynedd diwethaf.  Yn wir, mae’n debyg bod rhywfaint o’r benthyciad yn ddibynnol ar y BBC yn traflyncu’r sianel yn bellach.

“Nid yw S4C na darlledu yng Nghymru yn gyffredinol yn saff yn nwylo San Steffan. Datganoli darlledu yw’r unig ateb yn wyneb hyn oll,” ychwanegodd.