Wel. Mae hwn yn werth gwylio. Dwy awr o sesiwn o’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Ond fe allech chi gael eich camarwain i gredu mai pwyllgor o’r Cynulliad ar leoliad yn rhywle yw e achos mae’r mwyafrif ohono yn y Gymraeg. S4C yw’r pwnc trafod, ac mae llinellau’r frwydr yn cael eu gosod allan yn glir.  Mae yma dystiolaeth gan bobol o’r byd darlledu ac yn yr ail awr gan bobol y byd iaith -y Bwrdd a Chymdeithas yr Iaith.

Un o’r uchafbwyntiau yw Colin Nosworthy o Gymdeithas yr Iaith yn annog y Cadeirydd David Davies i ymuno a Chymdeithas yr Iaith (!) ond roeddwn i’n disgwyl mwy o dân pan ofynnodd Alun Cairns i Menna Machreth ddewis rhwng toriadau o 40% a’r arian i gyd yn dod gan DCMS neu doriad o £100 i £83 miliwn mewn 3-4 mlynedd a’r arian i ddod o’r BBC (1 awr 49 mewn). Trueni nad atebodd hi’r cwestiwn. “Ffug ddewis” yw rywbeth felly yn ôl Colin Nose Worthy, fel y galwyd ef gan David Davies -Cadeirydd abl os gaf fi ddweud.

Fe fydd dadansoddiad Alun Cairns o sefyllfa S4C yn Golwg dydd Iau.