George Bush
Mae cyn-arlywydd yr Unol Dalieithiau, George Bush, wedi’i gludo i’r ysbyty yn Houston.

Yn ôl adroddiadau ar deledu yr ardal honno, fe ddaeth cadarnhad gan un o weithwyr Mr Bush fod y cyn-arlywydd yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Fethodistaidd Houston.

Dyw hi ddim yn glir, ac ni ddaeth sylw pellach, am gyflwr y gwr sydd bellach yn 92 oed – er, mae disgwyl iddo fynd adref o fewn y dyddiau nesa’.

Y tro diwetha’ i George Bush gael ei gludo i’r ysbyty oedd yn ystod 2015, wedi iddo gwympo a thorri asgwrn yn ei wddw.

Fe fu’n arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 1989 a 1993.