Mae un o lawlyfrau teithio mwya’ poblogaidd y byd, Lonely Planet, wedi cyhoeddi heddiw bod Gogledd Cymru yn bedwerydd ar restr o’r deg rhanbarth gorau y dylai teithwyr ymweld â nhw yn 2017.

Dyma’r unig ranbarth o’r Deyrnas Unedig i gyrraedd y deg uchaf, ac mae’r llyfr yn cyfeirio at atyniadau fel Surf Snowdonia, Zip World a Bounce Below.

Mae hefyd yn nodi bod Parc Cenedlaethol Eryri wedi’i nodi fel gwarchodle oherwydd y diffyg llygredd golau sydd yn yr ardal.

‘Ar lwyfan y byd’

Yn ôl Cyfarwyddwr Golygyddol Lonely Planet, “fe wnaethom gynnwys Gogledd Cymru yn rhestr deg uchaf o ranbarthau eleni am ei bod yn haeddu cael ei chydnabod ar lwyfan y byd.

“Mae’n ardal odidog gydag ystod eang o weithgareddau i ddiddanu teithwyr.”

Mae hefyd wedi canmol yr amrywiaeth o fwyd sydd yno ac mae’r dyfyniad yn y llyfr yn nodi: “Ar un adeg roedd y mynyddoedd a’r dyffrynnoedd yng Ngogledd Cymru yn rhoi llechi, copr a hyd yn oed aur yn helaeth; nawr mae’r dirwedd hyn yn fodrwyog a bryniau a mytholeg gyfoethog yn gae chwarae i heicwyr, beicwyr mynydd a dringwyr.”

‘Newyddion ardderchog’

Yn ôl Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi Llywodraeth Cymru, “mae hwn yn newyddion ardderchog i Gymru wrth i’n Blwyddyn Antur ddirwyn i ben.”

“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Gogledd wedi ail-fuddsoddi ynddi’i hun a thrwy ychwanegu cyfleusterau o safon fyd eang, a’r rheini ar flaen y gad, i gyd-fynd â’r golygfeydd godidog, mae hynny wedi rhoi rheswm i bobl ymweld â’r ardal,” meddai.

Dywedodd y bydd y newyddion yn cael lle blaenllaw yn ymgyrch farchnata’r Llywodraeth y flwyddyn nesaf sy’n canolbwyntio ar chwedlau yng Nghymru.

Y rhestr

Ar frig y rhestr mae Choquequiro ym Mheriw, a dyma restr lawn o’r deg uchaf yn llyfr Lonely Planet Best in Travel 2017:

  1. Choquequirao, Periw
  2. Taranaki, Seland Newydd
  3. Yr Azores, Portiwgal
  4. Gogledd Cymru
  5. De Awstralia
  6. Aysén, Chile
  7. Y Tuamotus, French Polynesia
  8. Arfordir Georgia, UDA
  9. Perak, Malaysia
  10. The Skellig Ring, Iwerddon

Ac i nodi’r achlysur, mae’r ddraig fawr sydd wedi bod yn teithio o amgylch cestyll Cymru yn ystod y flwyddyn yn ymweld ag Eglwys Gadeiriol St Paul’s yn Llundain heddiw.