Arfon Jones
Mae panel annibynnol wedi gwrthod cadarnhau penodiad Dirprwy Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, gan fynd yn erbyn argymhelliad y Comisiynydd.
Yn ôl Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, fe gafodd y penodiad ei wneud drwy broses nad oedd yn dryloyw, am nad oedd y swydd wedi cael ei hysbysebu.
Fe wnaeth Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, Arfon Jones, argymell i’r panel mai Ann Griffith, cynghorydd ar Gyngor Môn, fyddai’r person gorau i gyflawni’r swydd â chyflog o £42,000 y flwyddyn.
Bydd Arfon Jones yn ystyried adroddiad y Panel cyn penderfynu beth i’w wneud nesaf.
“Rwy’n siomedig nad oedd y Panel Heddlu a Throsedd yn cytuno â fy newis,” meddai, “ond mae’r ddeddfwriaeth yn gwbl glir a diamwys ar y mater hwn. Y comisiynydd sydd â’r penderfyniad terfynol ynghylch penodi dirprwy.
“Wedi dweud hynny, byddaf yn ystyried eu hadroddiad yn ofalus ac yn trafod y mater gydag Ann cyn ymateb i’r panel.
“Yn y cyfamser, y flaenoriaeth i mi yw canolbwyntio ein hegni ar sicrhau gwasanaeth heddlu effeithiol a rhoi pobl Gogledd Cymru yn gyntaf.”
Penderfyniad yn nwylo’r Comisiynydd
Comisiynydd yr Heddlu sydd â’r hawl i benodi ei ddirprwy ac mae’n rhaid iddo hysbysu’r panel i geisio cael sêl bendith.
Er hynny, does dim gorfodaeth arno i dderbyn argymhelliad y panel, ac mae Arfon Jones wedi dweud y bydd yn astudio adroddiad llawn y panel cyn gwneud penderfyniad.
Cafodd swydd y Dirprwy Gomisiynydd diwethaf yn y gogledd ei hysbysebu yn 2013, pan oedd Winston Roddick, yn Gomisiynydd.
Yn ôl y Daily Post, roedd cadeirydd panel yr heddlu, Julie Fallon, wedi dweud yn y cyfarfod i drafod y penodiad bod “pryder dros y diffyg tryloywder” yn ystod y broses recriwtio.
Profiad Ann Griffith
Yn ei adroddiad ar benodiad Ann Griffith, dywedodd Arfon Jones fod ganddi 30 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda phlant a phobol ifanc fregus.
Mae hefyd yn uwch weithiwr cymdeithasol ac y byddai hynny’n golygu bod ganddi’r “profiad a’r sgiliau angenrheidiol” i helpu’r Comisiynydd i fynd i’r afael â throseddu ymhlith pobol ifanc.
“Mae wedi gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio cam-drin ac esgeuluso plant, asesu iechyd meddwl oedolion a chyfiawnder ieuenctid,” ychwanegodd.