Gwariant Llywodraeth Cymru wedi'i ddatgelu
Roedd dillad isaf merched ymysg yr £1.4 miliwn a gafodd ei wario gan ddefnyddio 237 o gardiau credyd Llywodraeth Cymru yn 2015/16.
Ond mae’r Llywodraeth yn mynnu mai taliad twyllodrus oedd hwnnw i gwmni Victoria’s Secret.
Mae’r wybodaeth, a gafodd ei datgelu oherwydd cais rhyddid gwybodaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig, hefyd yn rhoi dadansoddiad manwl o bob un o’r 12,648 o weithiau y cafodd y cardiau, sydd hefyd yn cael eu galw’n gardiau caffael, eu defnyddio.
Ers 2011, mae £7.5 miliwn wedi cael ei wario ar y cardiau.
Ymysg y gwariant roedd:
- £103.91 yn Victoria’s Secret, siop dillad isaf crand i ferched
- £377.31 ar danysgrifiadau iTunes – tanysgrifiad i’r Daily Post
- £370.70 ar offer hwylio ar gyfer hyfforddiant
- £1569.10 ar bice ar y maen
- £ 279.90 yn ToysRUs.
Gwerth am arian
Dywedodd llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Ramsay: “Er ein bod ni’n derbyn bod gan gardiau caffael rôl i’w chwarae wrth leihau’r gost fiwrocrataidd o brosesu hawliadau bach, mae nifer y staff sydd â mynediad iddynt yn parhau i dyfu ac mae rhai o’r hawliadau yn gofyn am esboniad.
“Mae miliynau o bunnoedd yn cael ei wario ar y cardiau hyn ac mae angen i’r cyhoedd fod yn hyderus nad yw’r system yn cael ei chamddefnyddio, a bod y trethdalwr yn cael gwerth am arian.”
Cardiau caffael yn “gyffredin”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y defnydd o gardiau caffael “yn gyffredin” ar draws holl adrannau’r llywodraeth yn y Deyrnas Unedig.
Ychwanegodd bod popeth sy’n cael ei brynu gan y cardiau yn gorfod cael eu cymeradwyo ac yn cael eu harchwilio’n fewnol yn aml.”