Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod, sy’n trafod y newidiadau mwyaf i Orsedd y Beirdd ers dyddiau Iolo Morganwg…

Rydan ni wedi cael tipyn o sylw i’r ffaith bod yr Orsedd yn chwilio am Feistres – neu Feistr – newydd i’r Gwisgoedd, dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf.  A thros y dyddiau nesaf, rydan ni’n gobeithio y bydd argymhellion diweddaraf Bwrdd yr Orsedd yn ysgogi trafodaeth.  Mae ‘na newidiadau mawr ar droed os yw cyfarfod cyffredinol yr Orsedd yn eu cytuno yn Wrecsam y flwyddyn nesaf, ac efallai y bydd y gwisgoedd y bydd y Feistr neu’r Feistres newydd yn gyfrifol amdanyn nhw’n eithaf gwahanol erbyn 2012.  Na, dyw’r Orsedd ddim yn cael ‘make-over’ – wel, ddim yng ngwir ystyr y gair, ond fe fydd ‘na newidiadau sylfaenol iawn os yw’r cynlluniau’n cael eu pasio.  Yn wir, dyma’r newidiadau mwyaf i’r Orsedd ers cyfnod Iolo Morganwg ei hun.

Yr wythnos hon, bydd yr Orsedd yn cyhoeddi rhagor o fanylion am yr hyn a drafodwyd yn eu cyfarfod cyffredinol ym Mlaenau Gwent eleni.  Mae Bwrdd yr Orsedd yn awyddus i sicrhau bod pawb yn ymuno â’r Orsedd ar yr un gwastad, gan sicrhau nad oes un lliw’n ymddangos yn fwy pwysig nag unrhyw un arall.  Mae’r cynllun yn dileu dosbarthiad yr Ofydd a Derwydd, a dim ond enillwyr prif gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd fyddai’n derbyn y Wisg Wen, gyda’r wisg honno’n parhau i gynrychioli’r berthynas bwysig sy’n bodoli rhwng yr Orsedd a’r Eisteddfod ei hun.

Ond, dyw’r lliwiau i gyd ddim yn diflannu – ond yn hytrach, byddai’r lliwiau’n cynrychioli gwahanol arbenigedd neu ddoniau, gyda’r posibilrwydd o greu lliw arall yn cael ei drafod, lliw ar gyfer y rheini a urddir yn sgil eu cyfraniad i gymdeithas neu ym myd y campau.  Felly, fydd Meistres neu Feistr y Gwisgoedd ddim yn segur o bellffordd os y bydd y cynnig yma’n cael ei basio.

Ac mae digon o gyfle i drafod.  Mae Bwrdd yr Orsedd yn awyddus i Orseddigion gael cyfle i fynegi barn, ac felly, ni fydd y mater yn cael ei benderfynu’n derfynol tan y cyfarfod cyffredinol ar Faes yr Eisteddfod yn Wrecsam y flwyddyn nesaf, ac os y bydd popeth yn cael ei gytuno bryd hynny, bydd y newidiadau’n dod i rym yn Eisteddfod Bro Morgannwg – ym mro Iolo Morganwg ei hun – y flwyddyn ganlynol.  Felly, os oes gennych chi farn am y newidiadau arfaethedig – mynegwch hi da chi dros y misoedd nesaf.  Gswyliwch allan yn y wasg a’r cyfryngau am wybodaeth am sut i fynegi barn.

Ac wrth gyffwrdd yn fan’na ag Eisteddfod 2012, a gynhelir ym Mro Morgannwg, braf yw nodi ein bod wedi pennu dyddiad ar gyfer cyfarfod cyhoeddus yn yr ardal i ddechrau ar y gwaith paratoi ar gyfer y Brifwyl ymhen dwy flynedd.  A buan iawn y bydd hi’n 2012, credwch chi fi.  Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu fod yn rhan o’r tîm a fydd yn gweithio ar yr Eisteddfod hon, neu os ydych chi’n awyddus i glywed am rai o’r syniadau ar ei chyfer, mae croeso i chi fynychu’r cyfarfod yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, nos Fercher 6 Hydref am 18.30.  Byddwn yn hyrwyddo’r cyfarfod yma dros yr wythnosau nesaf, a gobeithio’n arw y byddwn yn gweld nifer fawr o bobl yn neuadd yr ysgol ar y noson.

Hen faes awyr Llandŵ ger Y Bontfaen fydd safle’r Eisteddfod a gynhelir o 4 Awst – 11 Awst 2012.  Cofiwch y dyddiadau, a chofiwch hefyd ddod atom i ardal sydd heb fod yn gartref i’r Brifwyl ers 1968 – a chyn hynny, 1920 – felly, mae’n hen bryd ein bod yn dychwelyd i’r Fro.  A gobeithio y bydd y torfeydd a ddaeth atom i Lyn Ebwy eleni, ac a gafodd flas ar yr Eisteddfod yn dychwelyd atom eto i Fro Morgannwg, sy’n gyfleus ar gyfer Caerdydd a rhan helaeth o dde Cymru.  Ond llawer mwy am Fro Morgannwg dros y misoedd wrth i ni ddechrau ar y paratoi – mae Wrecsam i ddod cyn hynny, ac mi fydda i’n sôn mwy am yr hyn sydd ar y gweill yno y tro nesaf.