Non Tudur, gohebydd celfyddydol cylchgrawn Golwg, sy’n adolygu Gadael yr Ugeinfed Ganrif gan Gareth Potter yn Institiwt Glyn Ebwy…

Pan oedd yr Eisteddfod ym Mhorthmadog yn 1987, mi wnes i fentro i gig y Traddodiad Ofnus a’r Cyrff yn y Coliseum yn y dre, a minnau ond yn dair-ar-ddeg oed. Mentro i ganol torf ddrygionus, meddw, lac ei thafod, a minnau yn sobor fel seintes. Roeddwn wedi mynnu cael mynd, a daeth fy ewythr druan i’m nol i ar y dot am ganol nos. Roedd yn rhaid i mi fod yno, a diodde gwg fy nghyfoedion a oedd wedi dewis mynd i gyngerdd Huw Chiswell yn rhywle, ac yntau’n torheulo yn llwyddiant ffilm Ibiza Ibiza ar y pryd ac yn eilun i lu o ferched yr un oed a mi.

Rwy’n diolch i ‘mrawd hŷn a’m cefndryd am y wybodaeth gyfrin a gefais yn ifanc am y ‘sin gerddoriaeth danddaearol’ a oedd wedi bod yn mudferwi ers dechrau’r 1980au. Roedd fy mrawd wedi bod mewn sawl grwp electronig – o dan ddylanwad meistri’r ymylon tywyll fel Kraftwerk, Joy Division, New Order ac eraill – ers ei fod yntau’n dair-ar-ddeg. Cefais docyn mantais i’r byd hwnnw fel petai.

Mi ddigwyddodd rhywbeth i mi y noson honno; taniodd ynof i ryw gariad at y gerddoriaeth anturus yma. Roedd yn fyd ei hun, yn ogof ddofn o bobol feiddgar, creadigol a chyffrous.

O wybod ychydig felly am gefndir sioe Gareth Potter yn Steddfod Glyn Ebwy eleni, Gadael yr Ugeinfed Ganrif (Sherman), roeddwn i eto am fynnu bod yno. Fel ym Mhorthmadog, mi eisteddais i lawr yn dawel, ond yn gegrwth. Roeddwn y tro hwn yn llawer mwy gwybodus ac yn llawer hŷn.

Mae Gareth Potter wedi sgrifennu a chynllunio drama, sioe, darlith neu pwy-a-wyr be’, sydd hefyd gofnod hanesyddol, gwiw o gyfnod pwysig yn y bywyd diwylliannol y Gymru gyfoes.

Mae e yn dechrau â’i blentyndod yng Nghaerffili, a’r dylanwadau a’i denodd at y synau beiddgar newydd oedd yn hawlio sylw trwy Brydain yn ystod y 1970au. Un o’r dylanwadau hynny oedd Mr Moi Parri, ei athro yn yr ysgol gynradd, a blesiodd y Potter wyth oed trwy chwarae caneuon roc y Trwynau Coch, Edward H Dafis a Bran yn y stafell ddosbarth: “roedd Mr Parri yn cool.”

Mae e’n cofio’r Sex Pistols yn dod i’r dre a fynte’n rhy ifanc i gael mynd, ond mi adawodd y pyncs anystywallt eu marc ar y dre’, ac arno yntau. Ac ennill cystadleuaeth bandiau Yr Awr Fawr gyda’i grwp Clustiau Cŵn a chael ei flas cynta’ ar fod yn seren roc a rol yn 14 oed.

Mae’r actor yn cyflwyno’r cyfan hyn trwy adrodd yr hanes yn ddigon syml, yn adrodd i ni’r holl fanylion, ond mae ymhel o fod yn ddiflas. Weithiau mi aiff at y meic, a chanu i gyfeiliant y trac sain o ganeuon ei orffennol. Mae can Clustiau Cŵn, ‘Byw yn y Radio’, yn swnio yr un mor gyfoes heddiw ag erioed yn enwedig y llinell glo, ‘Cysgu pan mae’r rhaglen yn gorffen’. (Mi soniodd ar ol y ddrama ei fod yn bygwth dod â Clustiau Cŵn nol at’i gilydd i whare gig ym Merthyr y flwyddyn nesa’. Dyna fyddai profiad.)

Rydyn ni’n aeddfedu gydag e wrth i’r sioe fynd rhagddi. Rydyn ni’n deall ei awch wrth iddo fentro gyda’i fet bore oes, Mark Lugg, lawr i Brighton yn 17 oed, a’u grwp newydd, arbrofol Traddodiad Ofnus yn cael croeso fanno a chan label recordio Almaenig o Berlin o bobman.

I mi, y nhw oedd un o fandiau mwya’ dylanwadol diwedd y ganrif ddiwetha’, yn defnyddio peipiau, clychau gwartheg, caeadau bin i gyfeilio i wylofain tywyll, pigog Potter a dryms bachog Spode. Daethon nhw i Steddfod Llambed a pheri i olygydd y cylchgrawn Sgrech boeri ei wawd yn ddiamynedd yn rhifyn ola’r cyhoeddiad, am eu hyfrda a’u swn dieithr. “Dyna oedden ni eisiau. Ymateb!” gwaedda Potter o’r llwyfan, yn llawn balchder.

Y peth sy’n eich taro wedi’r sioe yw cymaint y mae Potter wedi’i weld, ei glywed a’i wneud yn ystod ei fywyd. Yn cynllwynio dros gasetiau gyda Rhys Mwyn a recordiau Anhrefn, yn trafod ffilmio gyda Geraint Jarman adeg Fideo 9, mentro i fyd acid house yn ei ugeiniau hwyr, yn tynnu to pafiliwn Bont i lawr adeg Eisteddfod Aberystwyth yn ’92 gyda Tŷ Gwydr a’u cyfeillion, a rhannu ty a spliffs gyda’r Cerys Matthews ifanc a’i chymar Mark Roberts o’r Cyrff.

Ond mae’r cyfan yn cael ei adrodd yn ddidwyll a hoffus. Un sy’ wedi bod yn gweld y sioe yw’r gantores Heather Jones, a fu’n ddylanwad ar y Potter ifanc, ac mae ei lluniau hi ymysg y myrdd o doriadau papur newydd a ffotograffs sy’n cael eu taflunio ar y wal tu ol i’r actor.

Mae yna ambell brofiad dadlennol am y perfformiwr. Dywed sut y teimlodd ar ol gadael y bands; un o’r pwysica’, a’r byrhoetlaf ohonyn nhw, oedd Pop Negatif Wastad a greodd gydag Esyllt Wigley o Aberystwyth. Fe wnaethon nhw un record arbennig – nad yw’n cael ei chwarae byth ar y cyfryngau – y mae’n ei chwarae ar ei hyd yn y ddrama. Mae e’n esbonio iddo adael cartre’u cyfaill Alan Holmes yn Sir Fon ar ol mynd i gasglu pentwr o’r recordiau, wedi noson ar y siampen, a gyrru am oriau, cyn cyrraedd pellafion Dinas Mawddwy, a dechrau crio. Ni ddychwelodd i’r tŷ yn Sir Fôn, nac at y band ac Esyllt, ac ni siaradodd y ddau am flynyddoedd. Mae e’n dawel am ennyd, yn gwrando ar y gan.

Dro arall mae’n cyfleu ei rwystredigaeth o gael ei ddiarddel o Traddodiad Ofnus gan Lugg a Spode, er mai fe oedd y saer geiriau, y crewr syniadau, yr un a fyddai’n trefnu. Mae’n amlwg bod hwnnw wedi bod yn siom ar y pryd.

Ond mae hi hefyd yn stori am gyfnod pwysig yn hanes diwylliant y genedl – mae hi’n fwy na sioe am greisis a grwpiau. Mae hi’n stori am genedl yn adennill ei thir a’i llais wedi iddi ddweud ‘na’ i refferendwm yn ’79, nes dweud ‘ie’ yn 1997. Mae’r actor yn dweud yn dyner falch tua’r diwedd mai ‘y nhw’ – nid dim ond fe a Lugg, ond yr holl sin herfeiddiol, newydd yma – a ddylanwadodd ar eraill i dorri’n rhydd a chodi’u llais. A hyn yn y pen draw, meddai, arweiniodd at y ffenomenon ‘Cool Cymru,’ yn hela Catatonia at frig y siartiau a Super Furries ledled y byd, a gwneud Cymreictod yn beth cŵl.

Mae’r Sherman yn gobeithio y bydd y sioe yn mynd ar daith yn nes ymlaen eleni, os bydd nawdd ar gael. Gobeithio wir – mae eisiau i dorf y tu hwnt i ffans sobor y Traddodiad Ofnus gael ei gweld.