Malan Vaughan Wilkinson sy’n trafod yr hawl i gyplau hoyw gynnal priodasau crefyddol…

Mae yna gryn drafod ar hyn o bryd ynglŷn â chaniatáu i gyplau hoyw fwynhau elfennau crefyddol mewn partneriaethau sifil.

Fe fyddai cael gwneud hynny yn newyddion da iawn i’r gymdeithas hoyw ac i minnau sy’n hoyw. Am y tro cyntaf fe fydden ni’n cael cynnwys cerddoriaeth, symbolau a darlleniadau crefyddol mewn seremonïau.

Ddoe, cefais y fraint o drafod hyn ar raglen Taro’r Post, ynghyd a Liz Morgan o fudiad Stonewall a Dr. Iesyn Daniel o Aberystwyth.

Heb os, roedd clywed rhai o’r dadleuon yn erbyn caniatáu’r elfennau crefyddol mewn seremonïau hoyw yn sioc go iawn i’r system.

Mae’n anodd gen i gredu bod rhai agweddau mor hen ffasiwn a hynafol ynglŷn â chyplau hoyw a’u lle mewn cymdeithas yn parhau i fodoli yn 2010.

Eilradd

Ers 2005 mae’r llywodraeth wedi caniatáu partneriaethau sifil ac mae hynny’n cydnabod bodolaeth cyplau hoyw i ryw raddau.

Ond dyw bod mewn ‘partneriaeth’ ddim yr un fath a phriodas. Mae ganddyn nhw statws gwbwl eilradd i barau priod heterorywiol o hyd.

Pam felly? Beth yw’r gwahaniaeth rhwng par hoyw sy’n caru ei gilydd, a chwpwl heterorywiol sy’n caru ei gilydd, mewn gwirionedd?

Brwydr tros gydraddoldeb yw’r frwydr i gynnwys elfennau crefyddol mewn partneriaethau hoyw, felly.

Dydw i ddim yn gofyn i bobol fy hoffi i na’r ffaith fy mod i’n hoyw – dim ond am yr hawl i fod yn gyfartal.

Byddai caniatáu elfennau crefyddol mewn seremonïau hoyw yn dod a chyplau gam yn nes at statws swyddogol, cydradd – sy’n hawl yn fy marn i.

Mae’n gwbwl wrthun i mi fod rhai yn cyfiawnhau gwahaniaethu rhwng cyplau hoyw a heterorywiol, yn enw crefydd a thraddodiad. Mae’n rhagrithiol.

Siawns mai un o brif werthoedd crefydd a Christnogaeth yw cariad. I garu eich cyd-ddyn yn ddiamod ac i beidio â gwahaniaethu.

Ond mae rhai Cristnogion yn mynnu cyfaddawdu ar yr egwyddor elfennol hon hyd yn oed – drwy ddatgan nad yw cariad rhwng dau ddyn neu ddwy ddynes yn ‘naturiol!’

Gallwn ddamcaniaethu  a dehongli adnodau unigol o’r Beibl hyd ddydd y farn. Ond i mi, mae cariad heterorywiol a gwrywgydiol yn gwbwl naturiol.

Mae’n real ac mae’n gariad  llawn daioni. Dyma’r cariad ydw i’n ei weld yn y Beibl. Mae cariad  – boed rhwng dyn a dynes, dau ddyn neu ddwy ddynes – yn rhywbeth i’w ddathlu.

Mi fedra i gadarnhau nad ydw i wedi bod yn smalio caru menywod eraill drwy gydol fy mywyd! Greddf naturiol yw caru merched i mi – nid dewis neu weithred annaturiol.

Y frwydr

Mae llai a llai o bobol yn mynd i’r capel erbyn hyn, ac rydw i’n credu bod rhaid i arweinwyr crefyddol ymarfer y cariad hwn sydd mor greiddiol i neges yr ysgrythur a symud ymlaen os ydyn nhw am droi’r trai.

Mae rhai, wrth gwrs,  wedi bod yn fwy na chefnogol i achos y gymdeithas hoyw. A dw i ddim yn credu bod ambell i lais anoddefgar yn cynrychioli pob un o Gristnogion heddiw. Mae’r gefnogaeth ydw i eisoes wedi’i dderbyn yn dilyn y rhaglen ddoe yn brawf pendant o hynny.

Drwy brotestio, ehangu ymwybyddiaeth a brwydro’n ddiwyd  am hawliau mae’r gymdeithas hoyw wedi cyrraedd lle y mae hi heddiw – wedi blynyddoedd o orthrwm.

Does dim amheuaeth yn fy meddwl i mai mwy o wthio bydd angen i ennill hawl cyfartal i gael bod mewn priodas. I fod yn gydradd. Rhywbeth sy’n debygol iawn o ddigwydd yn hwyr neu’n hwyrach.

Ond am y tro – ymlaen a’r frwydr!