Mae Gwyn Jenkins wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Ne Affrica fis nesaf, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.

Brasil yw’r ffefrynnau i ennill chweched Cwpan y Byd eleni. Mae ganddyn nhw lu o chwaraewyr talentog ond mae rhai yn gwneud nad ydyn nhw mor beryg wrth ymosod ag oedden nhw.

Y Wlad

Poblogaeth: 192 miliwn

Prif iaith: Portiwgaleg

Prifddinas: Brasilia

Arweinydd: yr Arlywydd Luiz Inácio Lula da Silva

Llysenw: Verde-Amarela (gwyrdd a melyn)

Yr Hyfforddwr

Dunga:

Enillodd Dunga 96 o gapiau dros ei wlad ac ef oedd y capten pan enillwyd Cwpan y Byd yn 1994. Fel chwaraewr canol cae cydnerth, nid oedd yn brin o feirniaid a ffafriai chwarae mwy creadigol a phert, ond gwerthfawrogwyd ei ddycnwch a’i daclo cadarn a roddodd gyfle i bêl-droedwyr mwy talentog i arddangos eu doniau. Penodwyd ef yn rheolwr yn 2006 ac mae wedi datblygu patrwm o chwarae gyda dau chwaraewr, Gilberto Silva a Melo fel arfer, yn flanced o flaen yr amddiffyn, gan ganiatáu’r rhyddid i Kaká ac eraill i ymosod yn ddilyffethair.

Y Daith

Yn ôl ei harfer, enillodd Brasil Grãp De America ond nid heb ambell i berfformiad siomedig, yn arbennig yn erbyn Bolifia a Paraguay.

Y Record

Brasil yw’r wlad â’r record orau yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd. Enillwyd y Gwpan bum gwaith (1958, 1962, 1970, 1994, 2002), gan gyffroi’r torfeydd gyda chwarae ymosodol celfydd.

Sêr o’r Gorffennol

Pelé:

Pelé oedd y pêl-droediwr gorau erioed yn ôl y gwybodusion. Yn ddwy ar bymtheg oed, sgoriodd ei gôl gyntaf dros ei wlad yn erbyn Cymru yng Nghwpan y Byd 1958, hatric yn erbyn Ffrainc yn y rownd gynderfynol, a dwy yn y rownd derfynol yn erbyn Sweden. Yn 1970 sgoriodd goliau cofiadwy wrth i Brasil gipio’r Gwpan am y trydydd tro. Roedd ei reolaeth dros y bêl, ei gryfder naturiol a’i ergydion nerthol yn ddiarhebol. Sgoriodd 77 gôl mewn 92 gêm dros ei wlad a chyfanswm o 626 gôl yn ei yrfa.

Ronaldo:

Ronaldo sydd wedi sgorio’r nifer uchaf o goliau (15) yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd erioed. Cafodd y blaenwr tal a chryf gyfnodau anodd, yn arbennig pan fuodd y sâl cyn rownd derfynol 1998, ac o ganlyniad methu â pherfformio ar ei orau. Ond yn 2002, sgoriodd yn gyson, gan rwydo ddwywaith yn y rownd derfynol yn erbyn yr Almaen. Chwaraeodd i glybiau gorau Ewrop: Barcelona, Real Madrid, Internazionale ac AC Milan, cyn dychwelyd i Brasil i orffen ei yrfa gyda Corinthians.

Gwyliwch Rhain

Luís Fabiano:

Mae Fabiano’n sgoriwr cyson dros ei glwb, Sevilla, a’i wlad. Rhwydodd naw gwaith yn y rowndiau rhagbrofol gan gynnwys dwy yn y fuddugoliaeth oddi cartref yn erbyn yr hen elyn yr Ariannin.

Lúcio:

Mae’r capten tal gosgeiddig yn darllen y gêm yn wych o’i safle yng nghanol yr amddiffyn. Wedi sawl blwyddyn gyda chlybiau yn yr Almaen, mae bellach yn aelod pwysig o dîm José Mourinho, Internazionale Milan. Chwaraeodd yn nhîm llwyddiannus Brasil yng Nghwpan y Byd 2002 ac ni fyddai’n syndod petai’n codi’r Gwpan yn Ne Affrica yn 2010.

Y Seren

Kaká:

Talodd Real Madrid £65 miliwn i AC Milan i brynu Kaká yn haf 2009, arwydd o ddisgleirdeb y chwaraewr canol cae ymosodol. Roedd yn aelod ifanc o’r garfan yng Nghwpan y Byd 2002 cyn iddo symud i’r Eidal. Sgoriodd bum gôl yn rowndiau rhagbrofol 2010, gan gynnwys dwy yn y gêm yn erbyn Ecwador. Bydd amddiffynwyr yn ei chael hi’n anodd i gadw’r chwaraewr sgilgar hwn yn dawel yn Ne Affrica.