Hud yn perfformio ym Maes B
Nos Fercher Maes B

Neithiwr oedd noson gyntaf Maes B, ac fel y disgwyl, roedd hi’n noson agoriadol anhygoel. Hud oedd yn penawdu’r noson, a gyda Swnami’n eu cefnogi roedden ni wrth ein bodd.

Ond wrth gwrs roedd y gerddoriaeth yn wych – dyna’r norm – felly’r hyn hoffwn i edrych arnynt yw’r newidiadau a gyflwynwyd a beth oedd yn gwneud y maes eleni yn wahanol i’r arfer.

Yn gyntaf, roedd y tent wedi dychwelyd i fod dan do eleni, yn hytrach na’r arbrawf awyr agored blwyddyn ddiwethaf. Newid sy’n neud llawer mwy o synnwyr i mi, oherwydd er oedd y llwyfan blwyddyn ddiwethaf yn grêt, does dim digon yn dod i Faes B i ail-greu rhyw Glastonbury bach.

Roedd y bar yn reit agos i’r tent heb ochrau’r tro hyn a oedd yn creu teimlad o gynulleidfa enfawr ac agos ac felly yn ystod setiau Swnami a Hud roedd y neidio a’r mosh pits yn dipyn o olygfa, yn enwedig gyda’r balŵns enfawr.

Ar y cyfan felly, noson arferol ym Maes B.