Mae Gwyn Jenkins wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Ne Affrica fis nesaf, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.

Unwaith eto mae gan Loegr obeithion uchel cyn dechrau’r gystadleuaeth. Ond ar ôl colli ar giciau o’r smotyn mewn sawl ymgyrch siomedig, a gemau sâl yn erbyn Japan a Mecsico, a ydyn nhw’n ddigon da?

Y Wlad

Poblogaeth: 51 miliwn

Prif iaith: Saesneg

Prifddinas: Llundain

Arweinydd:  Prif Weinidog y Deyrnas Unedig: David Cameron

Llysenw: Three lions (Y tri llew)

Yr hyfforddwr

Fabio Capello:

Penodwyd yr Eidalwr profiadol yn 2007 wedi cyfnod trychinebus Steve McClaren wrth y llyw. Enillodd Capello 32 cap dros ei wlad ac yna bu’n rheolwr ar AC Milan, Juventus a Real Madrid mewn gyrfa hyfforddi ddisglair.

Y Daith

Ennill naw a cholli un, oddi cartref yn yr Iwcrain, oedd record gampus Lloegr yn Grŵp 6 yn y gemau rhagbrofol. Y fuddugoliaeth orau oedd yn y gêm oddi cartref yn Croatia (y tîm a ataliodd Lloegr rhag cyrraedd Pencampwriaeth Ewrop 2008).

Y Record

Enillodd Lloegr Gwpan y Byd am yr unig dro yn 1966 pan gynhaliwyd y gystadleuaeth yn Lloegr. Serch hynny, nid yw’r record yn arbennig o dda ar feysydd tramor. Yn 1950 collwyd 1-0 yn erbyn tîm o chwaraewyr rhan-amser yr Unol Daleithiau a methwyd â chyrraedd y rowndiau terfynol yn 1974, 1978 ac 1994.

Sêr o’r Gorffennol

Bobby Charlton: Yn un o ‘Busby babes’ Manchester United, sgoriodd Charlton 50 gôl dros ei wlad, record sy’n dal i sefyll. Yn aelod allweddol o’r tîm a gipiodd Cwpan y Byd yn 1966, sgoriodd ddwywaith yn y rownd gynderfynol yn erbyn Portiwgal. Sgoriodd ddwywaith hefyd yn rownd derfynol Cwpan Ewrop yn 1968 pan enillodd Manchester United y gystadleuaeth am y tro cyntaf.

Bobby Moore: y capten pan enillwyd Cwpan y Byd yn 1966, roedd yr amddiffynnwr digynnwrf yn gonglfaen i Loegr mewn 108 o gemau rhyngwladol – 90 ohonynt fel capten. Honnodd Pelé, chwaraewr gorau’i ddydd, mai Moore oedd yr amddiffynnwr gorau i’w farcio erioed.

Gwyliwch Rhain

Steven Gerrard: mae’r chwaraewr canol cae egnïol wedi sgorio goliau gydag ergydion nerthol o bell i Lerpwl a Lloegr. Sgoriodd deirgwaith yn y rowndiau rhagbrofol, gan gynnwys dwy yn erbyn Croatia.

Y Seren

Wayne Rooney:

Bu Rooney ar dân dros Manchester United yn ystod tymor 2009-10 a bydd Lloegr yn ddibynnol arno am goliau yn Ne Affrica. Er ei fod ond yn 24 mlwydd oed, mae eisoes hanner ffordd at dorri record Bobby Charlton o 50 gôl dros ei wlad. Bydd yn ddiddorol gweld a fydd Capello yn ei ddewis i arwain y llinell flaen ar ben ei hunan, fel y gwna yn aml i United.