Mae’n gyfnod o orfoledd i glwstwr o bobol ifanc, ac eraill yn pendroni ynglŷn â mynd i’r coleg neu beidio.  Mae’n gallu bod yn straen, yn ôl Llinos Dafydd, gohebydd cyffredinol i Golwg, sy’n parhau i astudio ym Mhrifysgol Bywyd. Dyma hi i fwrw’i bol …

Fory, bydd miloedd o ddisgyblion yn clywed eu canlyniadau TGAU, ac yn gorfod penderfynu a ydyn nhw am aros yn yr ysgol i wneud Lefel A neu gamu i’r byd gwaith.

Dyw’r penderfyniad ddim mor hawdd ac y bu, hyd yn oed i’r swots mwya’ serennog. Gyda chymaint yn cysgodi rhag y dirwasgiad dan doeon prifysgolion does dim gwarant y bydd eich Lefelau A yn ddigonol i sicrhau lle bellach.

Hefyd, o’r flwyddyn nesaf ymlaen, mae’n debyg y bydd y Lefelau A yn anoddach, ac yn gofyn am atebion fwy dadansoddol.

Gall hynny arwain at lai o lwyddiant Lefel A – a straen ychwanegol i ddisgyblion i gyrraedd yr A* newydd fydd yn cael ei gyflwyno, gyda’r nod o ddangos y gwahaniaeth rhwng y disgyblion disgleiriaf a’r gweddill.

Mae gofyn i ddisgyblion neidio drwy gylchoedd uwch ac uwch bob blwyddyn, ond wrth i’r canlyniadau wella mae llai o barch tuag at Lefel A bob blwyddyn hefyd.

Wneith y ‘swots’ oroesi, fwy na thebyg, ond beth am y rhai sy’n crafu’r C neu sy’n brwydro am y B angenrheidiol?

Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, â theuluoedd yn meddwl am ffyrdd i arbed arian, bydd llai hefyd yn barod i gasglu dyled o tua £5,000 am bob blwyddyn y bydden nhw’n eu cael yn y coleg.

Gyda mwy a mwy yn mynd i’r brifysgol mae llai o llai o sylwedd i’r cyrsiau sy’n cael eu cynnig, ac mae nifer o’r myfyrwyr sy’n gadael yn wynebu tipyn o Catch-22 – bod angen profiad i gael swydd, ond does dim modd ennill profiad heb swydd.

Gyda’r holl gymylau yma dros eu pennau, mae’n debyg y bydd nifer sy’n cael eu graddau TGAU yfory yn penderfynu mentro i’r byd mawr heb radd y tu ôl i’w henwau.

Mae’n sicr y bydden nhw wedi magu’r un faint o brofiad gwaith mewn pum mlynedd o lafur nac mewn dwy o gwblhau arholiadau Lefel A, a thair wedyn o ddiota.

Trwy wneud pethau ar liwt eu hunain, neu drwy hyfforddiant gan gyflogwyr, byddai modd llwyddo’n well yn yr ysgol brofiad, a dod allan ohoni’n gyfoethocach o lawer – hyd yn oed os wneith e’ gymryd amser.

Ara’ bach mae dal iâr, medden nhw, ac yn sicr does dim angen addysg Prifysgol i gyflawni hynny.