Dai Lingual sy’n trafod y defnydd cywir o ‘ti’ a ‘chi’…

Ges i lyfr ar fenthyg gan Fan y Fro a oedd arfer picio heibio’r tŷ ar Ddydd Mawrth weithiau cyn i David Cameron gael ei ddyrchafu i fod yn Brif Weinidog.  “Wyneb Doniol” oedd enw’r llyfr, i blant bach.

Y’ chi siŵr o fod yn gyfarwydd gyda’r math yma o lyfr, cyfle i wneud ystumiau i’r plentyn wrth gopïo’r wynebau yn y llyfr; oni bai bod yna hefyd stori syml (iawn) i ddilyn hefyd.  Felly mae’r plentyn (a’r rhiant pe bai’n ddysgwr/aig) yn gallu dysgu wynebau newydd mewn cyd-destun.  Go handi ynde.

Nawr mae’r wyneb “hapus” sy’n gyntaf yn ddigon hawdd wrth gwrs, wrth fod y plentyn yn y stori yn chwarae’n hwylus. Yn syth bin wedyn ’ny, mae’r bachgen bach yn cael sioc o gwrdd ag arth; wyneb syn felly a gair go anodd i blentyn bach.

Yn grac, mae’r plentyn wrth i’r arth dwgyd y bêl; ac yn dibynnu ar eich tafodiaith mae’r wyneb “dig” yn air newydd hefyd.  Daw’r geiriau “drygionus” a “phryderus” i’r amlwg hefyd yn y gyfrol, mewn cyd-destun hawdd i ddeall ac yn rhan o stori ddigon diddorol i ddifyrru’r plentyn wrth ddysgu geirfa gyfoethog.

Beth bynnag, mae’n lyfr andros o dda i’w ddefnyddio i ddarllen i blentyn tua tair blwydd oed; ac wrth orffen y llyfr wrth gwrs sai’n credo mod i yn sbwylio’r sypreis i chi os y’ fi’n dweud taw drych sy ‘na gyda’r wyneb mwyaf doniol …“Dy wyneb di” wrth gwrs!

Ti neu chi?

Be sy hefyd yn ddiddorol i fi fel rhywun sydd wedi astudio ieithyddeg yn y gorffennol yw bod y frawddeg ola ‘na gen i yn arddangos y ddwy ffordd o gyfarch y darllenydd yn y Gymraeg,.  Dwi’n dueddol o ddefnyddio’r ffurf ffurfiol “chi” wrth ysgrifennu i unrhyw un nad ydw i’n nabod yn dda; o ganlyniad o fy addysg yng Ngorllewin Cymru mae’n siŵr (i chi!)

Yn y llyfr yma i blant, oedolyn, sef awdur y llyfr (Nicolas Sïem felly ie cyfieithiad/addasiad ydyw, ac yn un o lyfrau’r ymgyrch Booksmart dwi newydd sylwi) sy’n cyfarch y plentyn felly er nad yw hi’n nabod y darllenydd, cyrraedd y plentyn yw nod y llyfr felly dwi’n ddigon hapus i dderbyn taw’r ffurf anffurfiol “ti” yw’r ffurf gywir. Yn y cyd-destun yma ta beth, gan mai fi’n sy’n darllen y stori i fy merch.

Be dwi ddim mor hapus i weld a chlywed yw’r gorddefnydd (yn fy marn i) o’r ffurf yma yn y cyfryngau yn ddiweddar – o ddarlledwyr BBC Radio Cymru yn erfyn ar eu gwrandawyr i ffonio megis hen ffrind  – i hysbysebion lletchwith ar S4C yn gofyn beth ydw i’n ei gredu: “Beth hoffet ti wneud …” neu “Beth hoffet ti ddweud…”. Wel dim yw dim os y chi’n gofyn fel’na missus!

Sai’n siŵr beth yw tarddiad hyn, mae’n siŵr mai rhyw fath o ymchwil neu gamsyniad mai dyna sut ma dyn yn hoffi cael ei annog gan y cyfryngau, ond yr ymadrodd bach yna sy’n well ‘da fi wedi treulio amser yn nhafarndai Ceredigion ar brynhawn Sadwrn wedi’r chwaraeon. “Beth ma dyn i fod i feddwl o hyn tybed?” sy’n well gen i glywed. Neu “chi” weithie hefyd, er mwyn bod yn gwrtais yndyfe.

A ma’r dyn yma’n tybio bod y pla wedi cyrraedd y we erbyn hyn hefyd.  “Hoffet ti ysgrifennu erthygl?” gofynnodd y wefan Metastwnsh ers talwm…[Er tegwch, mae’r adborth i’r wefan honno wedi awgrymu bod “chi” yn rhy ffurfiol i’r we.]

Wel, gan bo CHI’n cynnig yndyfe! Wrth gwrs, gall y defnydd yna o ‘chi’ fod yn iawn yn y Gymraeg gan efallai bod yna sawl un y tu ôl i lenni’r wefan.  Sy’n eitha handi pan ma dyn yn sgwennu e-bost i rywun mewn sefydliad arall, er enghraifft.

Ac yn ôl y rhaglen ma dyn yn defnyddio i sgwennu rhywbeth hirach yn y Gymraeg, “Gan eich bod chi yn cynnig” dylai hynny fod hefyd! Felly mae’n rhaid bod yn ofalus wrth deipio hefyd.

Trafod teulu

Fel rhywun sy’n gyfarwydd a defnyddio’r ddwy iaith gyda’r teulu a pherthnasau agos a phell, weithiau dwi’n dala fy hun yn defnyddio’r Gymraeg “chi” i bobl dwi’n nabod yn ddigon da i ddefnyddio “ti”, ond efallai bod y syniad o barch mor annatod yn fy ieithwedd fel bod hynny’n aros hyd yn oed i berthnasau agos sy’n digwydd bod yn hŷn na fi (hyd yn oed ‘nhad weithiau!).  Ma’r dyn yn haeddu rywfaint o barch wrth gwrs, yn naturiol.

I ddweud y gwir o fewn teulu sai’n siŵr os yw’r “rheolau” yn newid o deulu i deulu neu be…”Ti” neu “Chi” byddai hen dadcu i chi? Ac i ti?…

Nid y Cymry’n unig sy’n straffaglu gyda’r system hynafol yma. I ddweud y gwir mae gan y rhan fwyaf o ieithoedd Ewropeaidd fersiwn o T/V , a enwir ar ôl y Ffrangeg “Tu” a “Vous” wrth gwrs.

Efallai byddai ambell un o’r sawl sy’n byw yn ein plith yn wlad hon sy’n uniaith yn honni mai anodd a lletchwith ar y naw yw’r holl system T/V yma; mond un peth arall i boeni am biti wrth geisio meistroli iaith.

Ond hoffwn i orffen drwy eich atgoffa bod meistroli iaith yn golygu meistroli cyfathrebu,ac fel y gwelir fan hyn nid hawdd yw deall popeth yn yr iaith fain chwaith…

“…when are you ever going to need a second language? Sorry, when I say you I don’t mean you personally obviously…”

Galle dyn ddadlau taw “when would one ever…” fyddai’r Saesneg cywir yn y frawddeg yna – ond prin fydda i am ddechrau a gorffen erthygl gan ddirmyg Cameron a’i griw!