Golwg ar y Bae - ar daith!

6 Ebrill 2017

Ceir adroddiadau arbennig o Strasbwrg a Chaeredin yn Golwg ar y Bae yr wythnos hon. Mae digon i'w drafod yn Strasbwrg - cartref y Senedd Ewropeaidd - oedd yn pleidleisio dros gynnig Ewrop yn y trafodaethau Brexit yr wythnos hon. Mae Jill Evans ASE yn dweud na fydd yn rhoi'r gorau i ymladd cornel Cymru wrth i'r broses barhau. Ac mae Gareth Hughes yng Nghaeredin - yn sôn am y ffrae rhwng Nicola Sturgeon a Theresa May dros gynnal ail refferendwm annibyniaeth i'r Alban. Bydd golwg ar Gwestiynau'r Prif Weinidiog fel yr arfer a hel clecs am benderfyniad Mark Reckless i adael UKIP ac ail ymuno â'r Ceidwadwyr. Wythnos brysur arall ym myd gwleidyddol Cymru!