Scarlets 12–19 Ulster

Bu rhaid i’r Scarlets fodloni ar bwynt bonws yn unig yn y frwydr tua brig y RaboDirect Pro12 ar Barc y Scarlets brynhawn Sul.

Roedd cais hanner cyntaf Andrew Trimble yn ddigon i ennill y gêm i Ulster ac ymestyn mantais y Gwyddelod ar frig y gynghrair.

Tri phwynt yr un oedd hi ar ôl chwarter y gêm wedi i’r ddau faswr, Aled Thomas a Paddy Jackson ill dau lwyddo gydag un gic gosb allan o ddwy.

Yna, wedi ychydig llai na hanner awr daeth y cais agoriadol i Trimble. Rhyng-gipiodd yr asgellwr bas Gareth Owen yn ddwfn yn ei hanner ei hunan cyn rhedeg yr holl ffordd at y pyst, 3-10 yn dilyn trosiad Jackson.

Ac ychwanegodd Jackson gic gosb hefyd wedi i sgrym Ulster gael y gorau o’r Scarlets i roi deg pwynt o fantais i’r ymwelwyr ar hanner amser.

Ciciodd maswr y Gwyddelod dri phwynt arall yn gynnar yn yr ail hanner i ymestyn y fantais ym mhellach, cyn i Thomas ymateb gyda chic gosb ei hunan gyda hanner awr i fynd.

Cyfnewidiodd Thomas a Jackson gic gosb yr un wedi hynny wrth i’r ymwelwyr aros ddeg pwynt ar y blaen gyda dim ond ugain munud ar ôl.

Bu rhaid i Ulster chwarae deg o’r munudau rheiny gyda phedwar dyn ar ddeg wedi i’r eilydd glo, Dan Tuohy, gael ei gosbi am drosedd yn ardal y dacl.

Ond methodd Thomas â throsi’r gic gosb ganlynol a methodd y Scarlets a chosbi’r pedwar dyn ar ddeg ar y sgôr-fwrdd o gwbl.

Ceisiodd Bois y Sosban redeg y bêl yn y munudau olaf ond doedd dim cais i fod a bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt bonws yn unig yn y diwedd gyda thri phwynt o droed Thomas gyda chic olaf y gêm.

Mae’r Scarlets yn aros yn yr ail safle yn nhabl y Pro12 er gwaethaf y canlyniad ond mae naw pwynt bellach yn eu gwahanu hwy ac Ulster ar y brig.

Ymateb

Johnathan Edwards, capten y Scarlets:

“Mae’r pwynt bonws yn gysur enfawr. Chwarae teg, fe chwaraeodd y bois yn arbennig tuag at y diwedd i gael y pwynt bonws.”

“Rydyn ni’n gwybod fod gallu yn y garfan ac roedden ni eisiau buddugoliaeth, ond yn anffodus roedd y rhyng-gipiad yn gostus iawn yn y diwedd.”

.

Scarlets

Ciciau Cosb: Aled Thomas 20’, 49’, 52’, 80’

.

Ulster

Cais: Andrew Trimble 28’

Trosiad: Paddy Jackson 29’

Ciciau Cosb: Paddy Jackson 9’, 33’, 43’, 58’

Cerdyn Melyn: Dan Tuohy 64’