Seland Newydd 6 – 9 Cymru

Mae tîm rygbi dan 20 Cymru wedi creu sioc enfawr heddiw wrth guro Seland Newydd yng Nghwpan Rygbi dan 20 y Byd yn Ne Affrica.

Yn wir, mae’n un o’r canlyniadau mwyaf syfrdanol erioed yn hanes rygbi ieuenctid – Seland Newydd yw deiliaid y teitl ar hyn o bryd a tydyn nhw erioed wedi colli yn y gystadleuaeth cyn heddiw.

Fel mae’r sgôr yn awgrymu, roedd yn gêm glos ond mae’r canlyniad yn golygu bod Cymru’n neidio uwchben y deliaid i frig Grŵp A.

Bydd Cymru’n herio Samoa nos Fawrth yng ngêm olaf y grŵp.